Sylw DBCC-7779
Cyflwyniad PLE Gorllewin Caerdydd i Lafur Cymru ar gynigion y Comisiwn Ffiniau
Er ein bod yn croesawu cynnig y Comisiwn Ffiniau i beidio â gwahanu pedair etholaeth Caerdydd, yr ydym yn teimlo bod cysylltiadau cryfach rhwng Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd na rhwng Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth; ac yn yr un modd, mwy o gysylltiadau rhwng De Caerdydd a Phenarth a Dwyrain Caerdydd.
Nodwn hefyd na fyddai unrhyw newid ym mharu pedair etholaeth Caerdydd yn cael unrhyw sgîl-effeithiau ar unrhyw baru rhwng etholaethau eraill. Byddai felly yn newid annibynnol ar y cynigion cychwynnol.
Yr ydym felly yn annog y Comisiwn Ffiniau i newid yr agwedd hon ar eu cynigion, gan ystyried y ffactorau isod:
Yr iaith Gymraeg
Caerdydd yw’r ardal o Gymru sydd yn tyfu fwyaf a chyflymaf o ran y Gymraeg, ac y mae hyn ar ei ddwysaf yng Ngorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd. O’r 14 ward yng Nghaerdydd sydd â mwy o siaradwyr Cymraeg na chyfartaledd Caerdydd o 10.1%, mae 11 yng Ngorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd, gan gynnwys yr 8 uchaf. Byddai uno’r ardaloedd hyn dan gyfres gyffredin o gynrychiolwyr Senedd yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd eu nodweddion ieithyddol cyffredin yn cael eu cynrychioli’n effeithiol, a chyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae cyflythrennu ‘Gogledd a Gorllewin’ a ‘Dwyrain a De’ yn ei gwneud yn haws i’r rhai sy’n llai rhugl eu Cymraeg i ynganu enwau’r ardaloedd, gan gynnal yr uchelgais i ddefnyddio enwau Cymraeg lle bo modd. Bydd hefyd yn help i wneud byrfoddau o enwau’r etholaethau.
Cymeriad cymysg cymunedau
Nodweddir gogledd a gogledd-orllewin Caerdydd gan nifer o gymunedau pentrefol, gan gynnwys yr ardal sy’n dod o dan y chwech o Gynghorau Cymuned Caerdydd sydd o fewn Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd. Mae clymau cymuned hefyd yn bodoli ar draws nifer o bentrefi “Cwm Taf”, megis Gwaelod-y-Garth a Ffynnon Taf, sy’n ymestyn ar draws ffin Gorllewin Caerdydd-Gogledd Caerdydd. Mae cymunedau hefyd lle mae lefelau uchel o dlodi, dros ardal eang yng Ngogledd Caerdydd (Gabalfa, Gogledd Llandaf) a Gorllewin Caerdydd (Trelái, Caerau, Pentrebaen).
Gwasanaethau cyhoeddus
Mae cysylltiadau agos hefyd yn bodoli pan ddaw’n fater o wasanaethau lleol niferus, er enghraifft, dalgylch Ysgol Gyfun Radur, sy’n ymestyn dros yr afon a’r etholaeth i gynnwys Tongwynlais; cysylltiadau cryf rhwng y ddwy ysgol gyfun Gymraeg, Plasmawr a Glantaf; ac Ysbyty’r Waun yw’r brif ganolfan i wasanaethau gofal iechyd brys ac eilaidd yng Ngorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd; a darpariaeth debyg o dai cymdeithasol ledled Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd (Trelái, Caerau, Pentrebaen, Gogledd Llandaf, Gabalfa). Byddai uno’r gwasanaethau hyn dan gyfres gyffredin o gynrychiolwyr Senedd yn ei gwneud yn fwy tebygol y cynrychiolir eu diddordebau a’u nodweddion cyffredin, gan gynnwys strwythurau llywodraethiant, yn effeithiol.
Twf a datblygiad Caerdydd yn y dyfodol
Mae ehangu a datblygiad tai yng Nghaerdydd wedi’i ganoli yng Ngogledd-Orllewin y ddinas (e.e. Llysfaen, Pontprennau, Radur/Plasdŵr). Mae hyn yn creu crynodiad o drigolion newydd i’r ddinas, y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt rannu nodweddion demograffig ac anghenion pan ddaw’n fater o gynrychiolaeth ddemocrataidd. Mae hefyd yn dra thebygol y bydd llawer o ddatblygiadau’r dyfodol yn canoli ar y rhan hon o’r ddinas, o ran ystyried datblygiadau newydd a hefyd gwarchod tirweddau sy’n bodoli eisoes (e.e., y “Lletem Werdd” y cyfeirir ati yn newis strategaeth CDLl Cyngor Caerdydd, sy’n cynnwys y mwyafrif o Orllewin Caerdydd a ffin ogleddol Gogledd Caerdydd). Bydd un set o gynrychiolwyr yn y lle gorau i gynrychioli trigolion lleol yn ystyrlon wrth i’r materion a’r penderfyniadau hyn gael eu hystyried dros y ddegawd(au) i ddod.
Wardiau awdurdodau lleol o Gaerdydd a Rhondda Cynon Taf
Fel y nodwyd gan y Comisiwn, byddai’r cynigion cychwynnol yn golygu y byddai aelodau’r Senedd dros etholaeth Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth yn cynrychioli wardiau o dri awdurdod lleol gwahanol, pob un a’i nodweddion a’i briodweddau arbennig ei hun. Golygai hyn y byddai’n rhaid i’r cynrychiolwyr ymgyfarwyddo a thair set o bolisïau a rhanddeiliaid llywodraeth leol, ac y mae hyn yn debyg o fod yn andwyol i ansawdd y gwasanaeth i’r etholwyr. Mantais ein gwrthgynnig ni o baru Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd fyddai lleihau’r cymhlethdod hwn trwy gynnwys dwy ward RCT (Ffynnon Taf a Phont-y-Clun) yn yr un etholaeth Seneddol. Byddai hefyd yn creu cysylltiadau cymunedol mwy dealladwy ar draws ffiniau awdurdodau lleol; er enghraifft, trwy uno dwy ardal gyfagos, Ffynnon Taf a Gwaelod y Garth yn un sedd.
Cysylltiadau etholaethau presennol
Rhannwyd etholaeth Senedd bresennol Canol Caerdydd rhwng De Caerdydd a Phenarth a sedd newydd Dwyrain Caerdydd. Trwy uno De Caerdydd a Phenarth gyda Dwyrain Caerdydd, byddai hen sedd Canol Caerdydd yn un etholaeth. Byddai Trowbridge, Llanrhymni a Thredelerch yn cael eu hail-uno â De Caerdydd a Phenarth yn ôl i un etholaeth. Fe wnâi hyn hi’n haws i’r etholwyr ddeall y newidiadau.
Cysylltiadau trafnidiaeth
Er y gellir dadlau bod y coridorau trafnidiaeth i’r ddinas i gymudwyr yn rhedeg yn fras o’r Gogledd i’r De, mae patrwm a chyfeiriad teithio dyddiol i drigolion mewn gwirionedd yn cydgyfeirio ar nifer o lwybrau a safleoedd allweddol ar hyd a lled Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd. Mae’r A48 (Rhodfa’r Gorllewin) sy’n ymestyn o’r Mynydd Bychan /Mynachdy yng Ngogledd Caerdydd at ffin Gorllewin Caerdydd yng Nghroes Cwrlwys yn llwybr o bwys i drigolion sy’n teithio bob dydd. Yn yr un modd, mae trigolion Gorllewin Caerdydd, gan gynnwys y rhai yn y ward sydd newydd ei hatodi, Pont-y-Clun i’r gogledd, yn debygol o fod yn teithio’n rheolaidd trwy’r ddwy brif groesffordd yn Coryton a Mynachdy, y ddwy yng Ngogledd Caerdydd. Mae coridor yr M4 tua’r gogledd, ynghyd â’r A48 i’r de a’r A470 sy’n cysylltu’r ddwy, yn creu cyswllt arbennig o gryf ar draws yr hyn fyddai’n etholaeth Gorllewin Caerdydd-Gogledd Caerdydd. Ategir hyn gan drydaneiddio Cwm Taf a gorsafoedd arfaethedig y Metro newydd sy’n gwasanaethu’r rheilffordd sydd yn gyfleus iawn yn cysylltu dwy lan yr afon yn Llandaf a Ffynnon Taf (Gogledd Caerdydd) a Radur (Gorllewin Caerdydd). Yr hyn sy’n bwysig yw bod y datblygiad rheilffyrdd hwn gan Drafnidiaeth Cymru yn canoli ar y Depo newydd dyn Ffynnon Taf, sy’n union ar ryngwyneb Afon Taf Gogledd Caerdydd/Gorllewin Caerdydd rhwng Caerdydd a’r cymoedd.
Nodweddion daearyddol
Mae dwy ffin ddaearyddol bendant i Gaerdydd, ar y Gogledd a’r De. Nodwedd y ffin ogleddol yw’r bryniau sy’n ymestyn ar draws Gogledd Caerdydd (Craig Llysfaen, Y Wenallt a Chraig yr Allt yn Nantgarw) at Orllewin Caerdydd (Bryn y Garth a Soar). Mae’r nodwedd unigryw hon yn uno Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd; ar y llaw arall, mae, De Caerdydd a Phenarth a Dwyrain Caerdydd rhyngddynt yn cynnwys y cyfan o ffin ddeheuol, arfordirol Caerdydd. Mae’n wir dweud hefyd fod yr Afon Taf, a all ar yr olwg gyntaf fod yn rhaniad naturiol rhwng Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd, mewn gwirionedd yn ffynhonnell hunaniaeth gyffredin i gymunedau o boptu Cwm Taf, gan ledu dros Ffynnon Taf, yr Eglwys Newydd a Gogledd Llandaf a Gabalfa yng Ngogledd Caerdydd, a Llandaf a Radur yng Ngorllewin Caerdydd. Mae cwrs yr holl afon dros feysydd glas yng Nghaerdydd o fewn i’r ddwy etholaeth hon, ac y mae materion cynaliadwyedd, gwarchodaeth ecolegol (rhag llifogydd) nac ansawdd a defnydd dŵr yn creu diddordeb cyffredin ar draws y ddwy etholaeth fyddai ar ei ennill o gynrychiolaeth ar y cyd (yn ogystal â chyswllt ag un etholaeth gydag with RCT i fyny’r afon). Mae hyn yn ategu ac yn cryfhau arwyddocâd y cysylltiadau rheilffordd trwy Ogledd a Gorllewin Caerdydd.
Dogfennau ategol
Math o ymatebwr
Ar ran sefydliad (preifat neu gyhoeddus)
Enw sefydliad
Cardiff West Constituency Labour Party
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.