Sylw DBCC-7791
Ni ddylid paru Maldwyn a Glyndŵr gyda Dwyfor Meirionnydd.
Rwy’n byw yn Ponciau LL14 1**, gwpl o filltiroedd y tu allan i Wrecsam ac yn ystyried fy hun yn rhan o gymuned Wrecsam.
Pan bleidleisiais yn yr etholiad cyffredinol diweddar, doeddwn i ddim yn teimlo’n hapus yn pleidleisio dros AS fyddai’n cynrychioli etholaeth mor fawr a daearyddol annealladwy, gyda’r rhan fwyaf ohoni yn wahanol o ran cymeriad a diddordebau i’m hardal fy hun. Buaswn yn fwy anhapus fyth yn gorfod gwneud hynny yn etholiadau’r Senedd.
Byddai paru â Wrecsam yn ffurfio etholaeth fwy cydlynus yn rhannu’r un pryderon o ran trafnidiaeth, gofal iechyd, a materion diwydiannol/masnachol/economaidd/diwylliannol. Byddai hefyd yn creu etholaeth fwy cydlynus yn ddaearyddol - nid yw Cymru, yn enwedig y gogledd, yn addas i raniadau 2-ddimensiwn syml ar fap. Mae’n hanfodol creu endidau sy’n gydlynus mewn realiti 3-dimensiwn.
Mae agosrwydd at y ffin â Lloegr yn ffactor gwahanol arall y dylid ei ystyried - mae ein cymunedau, er bod llawer yn Gymreig iawn eu natur, yn teimlo effaith hyn mewn llawer ffordd, gan gynnwys mynediad at wasanaethau a chyfleoedd am waith, etc., ynghyd â seilwaith trafnidiaeth sy’n wahanol iawn i’r hyn sy’n bodoli yn y gorllewin.
Nid wyf yn teimlo y gall unrhyw gynrychiolaeth fod yn wirioneddol effeithiol wrth geisio gwasanaethu buddiannau cyfres mor wasgaredig a gwahanol o gymunedau, a gobeithio y byddwch yn ail-ystyried.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.