Sylw DBCC-7818
Annwyl Syr/Fadam
Fel un o Aelodau Rhanbarthol Senedd Cymru dros Ganol De Cymru, hoffwn wneud y sylwadau a ganlyn:
Yn y pen draw, rwy’n credu fod achos cryf dros uno etholaeth Pontypridd â Gorllewin Caerdydd ac nid Merthyr Tudful ac Aberdâr.
Fel y cofiwch, efallai, yr oedd rhannau helaeth o Orllewin Caerdydd unwaith yn Etholaeth Seneddol Pontypridd; mae’r rhain yn cynnwys aneddfannau Pentyrch, Creigiau, Gwaelod y Garth, Capel Llanilltern, a hyd yn oed Radur, mi gredaf - gadawsant oll yr etholaeth yn dilyn y Pumed Adolygiad Cyfnodol yn 2010. Yn fwy diweddar, ychwanegwyd tref Pont-y-clun, sydd yn cynnwys Meisgyn a’r Groes-faen, o etholaeth Pontypridd i Orllewin Caerdydd yn dilyn Adolygiad Cyfnodol 2023. Mae hyn ynddo’i hun wedi achosi annormaledd etholiadol, gan fod rhannau o ward etholiadol ‘Gorllewin Pont-y-clun’ yn dal yn Etholaeth Pontypridd, gan yr amlygwyd hyn yn eich cynigion cychwynnol.
Ffactor arall sy’n cefnogi uno Pontypridd a Gorllewin Caerdydd yw’r cysylltiadau cymunedol cryf, gyda’r rhan fwyaf o etholaeth Pontypridd yn edrych tua Chaerdydd am waith, gweithgareddau siopa a chymdeithasol. Yn wir, mae gan aneddfannau Llanharan a Llanhari gysylltiadau arbennig o gryf â Phont-y-clun, felly hefyd Tonysguboriau a Llantrisant. Hefyd, mae gan aneddfannau fel Llanilltud Faerdre, Efail Isaf, Church Village a Thon-teg, oll gysylltiadau cryf â Chreigiau a Phentyrch am eu bod mor agos. Cefnogir hyn oll gan gysylltiadau trafnidiaeth cryf, gan gynnwys rheilffyrdd a bysus - ac nid yw’r rhain mor gryf i’r trigolion hynny sy’n mynd i Ferthyr ac Aberdâr.
O droi at Ferthyr Tydfil ac Aberdâr, rwyf yn pryderu nad oes gan fwyafrif helaeth y trigolion sy’n byw ym Mhontypridd gysylltiad na pherthynas o gwbl â’r cynnig hwn, fel yr amlinellwyd yn y paragraff blaenorol, a byddai’n fwy addas i’r etholaeth gael ei huno â Rhondda ac Ogwr, sydd nid yn unig yn rhannu nid yn unig gysylltiadau diwylliannol cryf oherwydd eu hanes a’u treftadaeth ddiwydiannol, ond hefyd seilwaith cryf a chysylltiadau trafnidiaeth. Amlygir hyn ymhellach trwy i aneddfannau fel Ynysybwl, Glyncoch a Chilfynydd gael eu trosglwyddo allan o Gwm Cynon ac i Bontypridd yn yr adolygiad cyfnodol diwethaf - ac yr oeddent oll yn uniaethu’n bendant â Phontypridd, nid ag Aberdâr a Chwm Cynon.
Dylid nodi hefyd mai un o gynigion gwreiddiol Adolygiad Cyfnodol 2023 oedd uno etholaethau Rhondda a Chwm Cynon, ac yr oedd hyn hefyd yn cydnabod y cysylltiadau cryf a rennir gan y ddwy etholaeth hon.
I droi at y ‘sgîl-effeithiau’:
Yn hytrach nag un De Caerdydd a Phenarth â Gorllewin Caerdydd, byddai’n cael ei uno ag etholaeth Bro Morgannwg. Cefnogir hyn nid yn unig gan y ffaith fod rhannau mawr o’r etholaeth eisoes yn rhannu ffin llywodraeth leol, ond hefyd fod aneddfannau yn Ne Caerdydd a Phenarth yn ddiweddar yn etholaeth Bro Morgannwg – e.e. Dinas Powys. Unwaith eto, mae Bro Morgannwg a De Caerdydd a Phenarth yn rhannu cysylltiadau cymunedol a thrafnidiaeth cryf, gyda’r rhan fwyaf o’r Fro yn edrych tua Chaerdydd i gymdeithasu, siopa a gweithio. Yn eu tro, mae trigolion De Caerdydd a Phenarth yn edrych tuag at y Fro am weithgareddau cymdeithasol a hamdden.
Yn hytrach nag uno Pen-y-bont ar Ogwr â Bro Morgannwg, byddai’n cael ei huno ag Aberafan Maesteg. Unwaith eto, mae’r paru hwn yn gwneud synnwyr am eu bod yn rhannu ffiniau llywodraeth leol, fod trigolion Aberafan Maesteg yn edrych yn bennaf tuag at Ben-y-bont i gymdeithasu, siopa a gwaith, a bod cysylltiadau trafnidiaeth cryf rhwng y ddau. Yn yr un modd, mae yn ‘rhannu mwy o hanes’ o gymharu â Phen-y-bont a Bro Morgannwg.
Diolch am eich ystyriaeth, ac edrychaf ymlaen at eich ymateb cyn gynted ag sydd modd.
Joel James AS
Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru
Gweinidog yr Wrthblaid dros Bartneriaeth Gymdeithasol
Math o ymatebwr
Aelod o Senedd Cymru
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.