Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-7824

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ

18 Medi 2024
Annwyl Syr/Madam
ADOLYGIAD 2026 O ETHOLAETHAU’R SENEDD – CYNIGION CYCHWYNNOL Y COMISIWN FFINIAU I GYMRU
Ysgrifennaf i gyflwyno ymateb ffurfiol yr Aelodau Etholedig i’ch cynigion o ran Adolygiad 2026 o Etholaethau’r Senedd – Cynigion Cychwynnol y Comisiwn Ffiniau i Gymru. Cafodd yr ymateb hwn ei ystyried a’i fabwysiadu gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu trawsbleidiol y Cyngor yn ei gyfarfod ar 18 Medi 2024, gyda gwahoddiad agored i bob Aelod Etholedig. Mae’r ymatebion hyn hefyd yn cynrychioli ymateb ffurfiol y Cyngor.

Yn bennaf, bu’r Aelodau’n ystyried cynigion y Comisiwn a fydd yn effeithio ar etholaethau sirol RhCT fel a ganlyn:

1. Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr (Aberafan Maesteg, Rhondda and Ogmore). Mae’r Comisiwn yn cynnig creu etholaeth sirol o’r canlynol: Etholaeth Seneddol y DU Aberafan Maesteg, ac: Etholaeth Seneddol y DU Rhondda ac Ogwr

2. Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd (Merthyr Tydfil, Aberdare and Pontypridd) a fydd yn cael ei chreu o’r canlynol: Etholaeth Seneddol y DU Merthyr Tudful ac Aberdâr, ac: Etholaeth Seneddol y DU Pontypridd

3. Dwyrain a Gogledd Caerdydd (Cardiff East and North). Mae’r Comisiwn yn cynnig creu etholaeth sirol o’r canlynol: Etholaeth Seneddol y DU Dwyrain Caerdydd, ac: Etholaeth Seneddol y DU Gogledd Caerdydd.

Mae sylwadau a phryderon yr Aelodau ynghylch y cynigion wedi’u crynhoi isod:

• Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch yr egwyddorion o alinio ag Etholaethau Seneddol y DU, a holwyd pam mae’r cynnig yn ymwneud ag 16 o etholaethau. Roedd yr aelodau o’r farn y byddai’r cynigion presennol yn ei gwneud hi’n anodd iawn i Aelodau o’r Senedd weithio ar draws nifer o Fyrddau Iechyd gwahanol, gan ddweud y byddent yn alinio’n well ag olion traed y Byrddau Iechyd Lleol neu’r Awdurdodau Lleol presennol.
• Teimlai’r aelodau y bydd y cylch gorchwyl eang sy’n perthyn i rôl Aelodau Etholaethol o’r Senedd mor helaeth fel y byddant yn cael eu datgysylltu’n ddaearyddol.
• Roedd yr aelodau’n anghytuno â datganiad y Comisiynydd bod cysylltiadau ffyrdd da iawn o fewn etholaeth arfaethedig Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr, a mynegwyd pryderon difrifol ynghylch mynediad ar ffyrdd, yn enwedig pe byddai mynyddoedd y Rhigos neu’r Maerdy ar gau.
• Teimlai’r aelodau nad oes unrhyw nodweddion a rennir yn bodoli â Rhondda (Pontycymer/Maesteg/Ogwr) a bod yr ardal hon wedi’i hychwanegu heb unrhyw gyfiawnhad ac nad oedd yn adlewyrchu cyfansoddiad daearyddol Rhondda.
• Roedd yr Aelodau’n gwrthwynebu’r cynigion presennol ac yn nodi bod yr ymgynghoriad yn gofyn am gynnig opsiynau eraill, felly, cynnig ffurfiol Aelodau RhCT yw etholaeth Rhondda Cynon Taf, neu os na fernir bod hyn yn bosibl, dylid ystyried Merthyr/Cynon a Rhondda/Pontypridd gan y trafodwyd bod yr ardaloedd hyn yn meddu ar gysylltiadau demograffig a diwylliannol tebyg.
• Roedd mwyafrif yr Aelodau’n cytuno bod angen rhagor o Aelodau yn y Senedd (er, ychwanegwyd na fydd hyn o reidrwydd yn boblogaidd ymhlith y cyhoedd)
• Bydd y cynigion presennol yn golygu colli cysylltiad lleol, gan ei gwneud yn anodd i’r cyhoedd adnabod/deall eu Haelodau o’r Senedd, ac mae’n bosibl y gallai’r cynigion arwain at ragor o waith achos i’r aelodau ac Aelodau Seneddol lleol. Credai’r Aelodau na fydd y cynigion presennol yn darparu’r gwasanaeth y mae pobl Cymru yn ei haeddu

Dymunwn i’r ymatebion sydd yn y llythyr gael eu hystyried yn rhan o’r broses ymgynghori gychwynnol. Yn ogystal â’n hateb ffurfiol, rwy’n ymwybodol y bydd aelodau unigol hefyd yn cyflwyno sylwadau ar ran eu wardiau etholiadol, ac yn yr un modd, y pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir ar y Cyngor.


Yr eiddoch yn gywir,

[REDACTED]
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ar ran y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

Math o ymatebwr

Ar ran awdurdod lleol

Enw sefydliad

Rhondda Cynon Taf County Borough Council

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd