Sylw DBCC-7839
Credaf y byddai’n well paru De Caerdydd a Phenarth â Dwyrain Caerdydd (ac, o ganlyniad, Gorllewin Caerdydd â Gogledd Caerdydd).
Ymddengys i mi fod y ddwy sedd sy’n ffurfio de daearyddol y ddinas yn gweddu i’w gilydd fel cyfanwaith mwy cydlynus na’r hyn a gynigir ar hyn o bryd. Maent yn cynnwys yr holl arfordir, sydd â chymeriad diwydiannol a rennir yn hanesyddol ac yn y presennol, yn ogystal â’r ddaearyddiaeth naturiol amlwg o gwrdd ag aber Afon Hafren (mae afonydd Taf, Rhymni ac Elái bob un yn cwrdd ag Aber Afon Hafren yn Ne Caerdydd neu Ddwyrain Caerdydd), sy’n gwbl wahanol i rannau mwy gogleddol y ddinas sy’n arwain i’r cymoedd.
Ceir digonedd o gysylltiadau trafnidiaeth, gan gynnwys opsiynau ar y ffyrdd a threnau, sy’n cysylltu’r ddwy etholaeth. Byddai hyn hefyd yn uno nifer o ardaloedd sydd â chysylltiadau sy’n bodoli. Un ohonynt yw canol y ddinas a Cathays, y bu llawer o’r ardal yn hen etholaeth Caerdydd Canolog gynt, ond sydd bellach wedi’i chynnwys yn Ne Caerdydd a Phenarth. Yn yr un modd, yn nwyrain y ddinas, Llanrhymni, Tredelerch a Trowbridge. Bydd etholwyr yn yr ardaloedd hyn yn dechau dod i arfer â chael eu tynnu o hen etholaeth De Caerdydd a Phenarth: byddai paru Dwyrain Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth bellach yn lleihau’r dryswch posibl, yn ogystal ag adlewyrchu’r dadleuon bod gan yr ardaloedd hyn gysylltiad sylfaenol, a wnaed yn ystod yr arolwg ffiniau San Steffan.
Mae’r cynnig hwn yn golygu y byddai etholaeth newydd y Senedd yn cynnwys dim ond dau Awdurdod Lleol (sef Caerdydd a Bro Morgannwg), yn hytrach na thri pe bai De Caerdydd a Phenarth yn cael eu paru â Gorllewin Caerdydd (sy’n cynnwys ward sydd yn Rhondda Cynon Taf), ac rwy’n awgrymu y byddai’n arwain at fwy o gysondeb a symlrwydd i gynrychiolwyr etholedig ac etholwyr.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.