Sylw DBCC-7866
Ni chredaf fod trigolion Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gwasanaethu orau drwy efeillio Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.
Ar ôl yr Etholiad Cyffredinol mae trigolion wedi drysu ynghylch pwy yw'r AS am fod y ffiniau wedi newid. Er fy mod yn siŵr mai dros dro y bydd hyn. Mae trigolion wedi cwestiynu pam y gwnaed y newidiadau hyn yn enwedig yng Nghorneli.
Fy marn i yw, yn hytrach na gefeillio Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg, byddai trigolion Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy addas i gael eu gefeillio ag Aberafan Maesteg.
Mae gan drigolion Porthcawl o fewn ffiniau Pen-y-bont ar Ogwr fwy o gysylltiad â chymunedau anghysbell yn Aberafan Maesteg, megis Corneli a'r Pîl. Mae Corneli a’r Pîl yn ddewis naturiol i drigolion Porthcawl wrth geisio prynu cartref pan all Porthcawl yn aml fod yn anfforddiadwy. Hefyd mae'r practis meddyg teulu yng Nghorneli yn nodwedd amlwg i drigolion Porthcawl.
Mae Porthcawl hefyd mewn perygl gwirioneddol o gael ei hynysu yn wleidyddol.
Mae gan drigolion hefyd gysylltiadau hirsefydlog â’r defnydd o draeth Aberafan, y gellir dadlau ei bod yn fwy ffafriol na thraeth y Barri oherwydd hwylustod teithio. Gellid dadlau bod hyn oherwydd rhwystrau daearyddol megis Afon Ogwr yn creu ffin naturiol rhwng cymunedau Porthcawl ac Aberogwr ac aneddiadau eraill ym Mro Morgannwg.
Math o ymatebwr
Aelod o Senedd Cymru
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.