Sylw DBCC-7886
Mae'n ymddangos bod nam ar y wefan gan na allaf wneud y parau yr wyf yn dymuno eu gwneud. Felly, bydd yn rhaid iddo fod yn y neges hon.
Dechreuwn yn yr ardal yr wyf ynddi.
Mae'n dda cael dwy ochr Casnewydd gyda'i gilydd. Felly i ffurfio un o'r enw Casnewydd ac Islwyn.
I Dorfaen y cymydog mwyaf addas fyddai Blaenau Gwent. Mae'r ddwy yn rhan o'r cymoedd gyda'r gymuned a'r bobl hynny. Byddai'n fwy priodol iddi fod gyda Chasnewydd. Mae llawer o gysylltiad a symudiad rhwng y ddwy. Mae Mynwy yn hollol wahanol. Mae’n wledig, yn ardal ffermio a'r bobl mor wahanol. Ni fyddai'n ffurfio cyfanwaith cydlynol fel y byddai'r lleill.
Mae Caerffili a Merthyr Tudful a Rhymni yn dod â dwy ardal yn y cymoedd at ei gilydd. Mae ffordd dda sy'n eu cysylltu ac mae Nelson a Threharris yn eu huno gyda'i gilydd. Gellid ei galw'n Rhymni a Merthyr (Tudful) ar ôl yr ardaloedd.
Mae gan Ogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd yr un cefndir i raddau helaeth ac mae’r bobl yn debyg.
Mae gan Ddwyrain Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth yr holl ddinas mewn un ac mae pob ochr i'r canol yn debyg gyda'r un mathau o bobl.
Mae Pontypridd a'r Rhondda ac Ogwr yn dod â'r ddwy ran yma o'r cymoedd at ei gilydd, ac mae Pontypridd ar ben y Rhondda. Gallai’r tri enw fod yn enw iddi.
Mae Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg yn rhannu'r arfordir ac mae Pen-y-bont ar Ogwr ar un ystyr yn borth i’r fro. Gellid ei henwi yn Bridgend Vale.
Byddai gan Aberafan Maesteg a Chastell-nedd a Dwyrain Abertawe y rhan fwyaf o fwrdeistref Castell-nedd Port Talbot - y cyfan o'r ddwy dref fawr hyn. Byddai'n cael ei galw'n Castell-nedd Port Talbot a Dwyrain Abertawe.
Mae Gorllewin Abertawe a Gŵyr yn rhan o (Brif Gyngor) Abertawe a byddai’n ffurfio sedd Abertawe-Gŵyr.
Mae Llanelli a Chaerfyrddin yn yr un sir ac yn cynnwys y sir gyfan. Gellid ei henwi yn Caerfyrddin.
Byddai Canol a De Sir Benfro a Cheredigion Preseli yn rhoi Sir Benfro gyfan mewn un etholaeth. Gellid ei henwi yn Ceredigion a Sir Benfro.
Mae Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe a Mynwy ill dwy yn gymunedau ffermio yn y bôn. Mae cyfathrebu'n rhagorol ar hyd yr A40.
Maldwyn a Glyndŵr a Wrecsam. Mae hyn yn uno dinas Wrecsam gyfan mewn un etholaeth. Gellid ei galw'n Wrecsam a Maldwyn.
Mae Alun a Glannau Dyfrdwy a Dwyrain Clwyd yn galluogi Sir y Fflint gyfan i fod gyda'i gilydd. Mae Sir y Fflint a Dinbych ill dwy yn siroedd gwledig. Ar hyd yr arfordir mae'n dod â threfi gwyliau Prestatyn a'r Rhyl at ei gilydd sydd i raddau helaeth yn ffurfio un. Gellid ei galw'n Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
Byddai Gogledd Clwyd a Bangor Aberconwy yn dod â Bwrdeistref Conwy gyfan at ei gilydd mewn un sedd sy'n hynod fuddiol i'r cyngor, y cynrychiolydd a'r bobl. Gellid ei henwi ar ôl dwy dref fawr - Bangor a Cholwyn.
Byddai Dwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn yn ffurfio un etholaeth. Mae'n dwyn ynghyd ddwy ardal amaethyddol wledig. Mae gan y bobl yno ffyrdd tebyg o fyw a byddent yn gweithio'n dda gyda'i gilydd. Mae ganddynt lawer yn gyffredin. Yn anad dim y ffaith bod y ddwy yn ardaloedd Cymraeg cryf. Mae o Ynys Môn i Ddwyfor Meirionnydd yn bellter byr gan fynd o Fangor i Aber Pwll, Y Felinheli ac ati ac i Gaernarfon.
Mae Ynys Môn yn llawer 'agosach' ac mewn mwy o gytgord â Gwynedd na Bwrdeistref Conwy. Mae hyn yn bwysicach o lawer na'r pellter i fynd o ddwy etholaeth bresennol San Steffan. Nid yw holl sedd bresennol Dwyfor Meirionnydd mewn gwirionedd yn yr un o'r ardaloedd hyn e.e. tref Caernarfon. Felly NID yw'n enw da. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o Wynedd (ac eithrio ardal Bangor). Gallai'r enw fod yn Wynedd ac Ynys Môn - ei dwy sir.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.