Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-7890

Nid wyf yn credu bod y parau arfaethedig yn parchu'r cysylltiadau traddodiadol rhwng Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr. Cynigiaf felly y dylid paru Aberafan Maesteg â Phen-y-bont ar Ogwr am y rhesymau canlynol;
• Mae cysylltiadau trafnidiaeth mawr fel yr M4 a phrif reilffordd Great Western yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin, nid o'r gogledd i'r de. Mae rheilffyrdd lleol hefyd yn rhedeg o fewn y ddwy etholaeth San Steffan sy'n uno cymunedau – er enghraifft, mae rheilffordd yn rhedeg o Bencoed trwy Ben-y-bont ar Ogwr i Faesteg. Nid oes trenau yn rhedeg o Aberafan/Maesteg i'r Rhondda yn yr un ffordd.
• Mae'r pâr newydd yn dilyn daearyddiaeth arfordir Cymru.
• Gwnaeth ffiniau San Steffan hollti Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn dair etholaeth wahanol. Byddai'r pâr newydd yn dod â dwy o'r tair etholaeth hynny at ei gilydd.
• Yn gymdeithasol ac yn economaidd mae gan y pâr fwy yn gyffredin o ran diwydiant hanesyddol, a phryderon o ran dyfodol diwydiannau lleol tebyg, yn fwy felly na'r parau eraill.

Math o ymatebwr

Aelod o Senedd Cymru

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd