Sylw DBCC-7894
Nid oes gan hen bentrefi glofaol de Wrecsam yn ymestyn o Lyn Ceiriog i Rostyllen unrhyw gysylltiad â chymunedau penrhyn Llŷn. Mae pentrefi de Wrecsam yn cysylltu’n naturiol â dinas Wrecsam, yn weinyddol, yn fasnachol, o ran gwaith ac yn gymdeithasol. Mae gwahanu'r cyswllt hwn yn wleidyddol yn drysu llawer o'r etholwyr a byddent yn gweld hyn fel colli AS. Byddai cam o’r fath yn cynyddu’r dadrithiad y mae’r pleidleisiwr cyffredin yn ei deimlo yn y broses ddemocrataidd. Nid yw’n hawdd egluro i rywun sydd am ymgynghori â’u AS eu bod hefyd yn cynrychioli etholwyr sy’n byw 175 km i ffwrdd.
Mae'r angen i gydraddoli etholaethau wedi arwain at yr anghysondeb enfawr bod Glyndŵr wedi’i rhoi ynghlwm wrth Faldwyn.
Byddai’r cynllun hwn yn cynyddu’r anghysondeb a byddai'n arwain at ddryswch pellach ymhlith yr etholwyr. Mae dryswch o'r fath yn arwain at ddadrithiad ynghylch democratiaeth.
Nid yw ffiniau presennol Glyndŵr yn cyd-fynd â ffiniau gwreiddiol y Cyngor Dosbarth felly nid oes cynsail ar gyfer cynnal Glyndŵr fel hunaniaeth ar wahân. Awgrymaf felly y dylid ymgorffori pentrefi de Wrecsam gyda Wrecsam.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.