Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-7922

Annwyl Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru,

Rwy’n ysgrifennu fel rhywun sy’n byw yn Sir Fynwy, ar y ffin â Thorfaen, i fynegi fy nghefnogaeth i’r newidiadau a gynigir i ffiniau ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026. Er bod yna amrywiaeth o safbwyntiau ynghylch ehangu’r Senedd, rwyf o’r farn bod y parau a gynigir, yn enwedig yn achos Sir Fynwy a Thorfaen, yn rhai ymarferol a manteisiol am sawl rheswm. Hoffwn amlinellu pum pwynt allweddol, sy’n cyd-fynd â dadleuon a gyflwynwyd gan Reform UK, sy’n cefnogi’r farn hon:

Cysylltiadau naturiol a hanesyddol â Thorfaen
Mae’r cynnig i baru Sir Fynwy â Thorfaen yn gwneud synnwyr, oherwydd mae’r ardaloedd hyn yn rhannu hanes hir a chysylltiadau lleol. Ceir cysylltiadau agos rhwng cymunedau yn y ddwy ardal, ac mae’n bwysig cynnal y cysylltiadau hynny yn ein cynrychiolaeth wleidyddol. Dyma rai cysylltiadau hanesyddol penodol sy’n amlygu’r cysylltiad naturiol rhwng Sir Fynwy a Thorfaen, sy’n ategu’r newidiadau a gynigir i ffiniau etholaethau’r Senedd:
• Treftadaeth ddiwydiannol gyffredin: Mae gan Sir Fynwy a Thorfaen hanes diwydiannol cyfoethog, yn enwedig o amgylch Pont-y-pŵl yn Nhorfaen, lle’r oedd gweithfeydd haearn, camlesi a thramffyrdd yn chwarae rôl hanfodol. Roedd Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, a ddatblygwyd yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, yn cysylltu Sir Fynwy ag ardaloedd diwydiannol Torfaen, ac yn hwyluso symud glo, haearn a nwyddau eraill rhwng yr ardaloedd hynny. Roedd y gamlas hon, a oedd yn rhedeg drwy Bont-y-moel yn Nhorfaen, yn cysylltu’r ardal â’r rhwydwaith diwydiannol ehangach ac yn meithrin cysylltiadau economaidd a chymdeithasol rhwng y ddwy ardal.
• Mae llwybrau trafnidiaeth yn ffafrio cysylltiadau sy’n rhedeg rhwng y gogledd a’r de: Yn hanesyddol, mae daearyddiaeth yr ardal wedi hybu cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de. Er enghraifft, roedd Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog a Chwm Afon Lwyd yn creu cysylltiadau trafnidiaeth effeithlon rhwng y ddwy ardal, yn enwedig ar gyfer masnachu diwydiannol. Ar y llaw arall, mae cysylltiadau rhwng y dwyrain a’r gorllewin yn y cymoedd yn aml yn fwy heriol oherwydd y topograffi naturiol sy’n ffafrio llwybrau sy’n rhedeg ar hyd y cymoedd (rhwng y gogledd a’r de) yn hytrach nag ar eu traws (rhwng y dwyrain a’r gorllewin).
• Cysylltiadau gweinyddol blaenorol: Yn hanesyddol, roedd Sir Fynwy a Thorfaen yn rhan o’r hen Sir Fynwy cyn i lywodraeth leol gael ei had-drefnu fwy nag unwaith yn yr 20fed ganrif. Câi ardal Torfaen ei llywodraethu dan Sir Fynwy nes i newidiadau greu ardaloedd gweinyddol ar wahân. Mae’r hanes cyffredin hwn o safbwynt llywodraethiant yn atgyfnerthu ymhellach y cysylltiadau naturiol sydd rhwng y ddwy ardal.
• Seilwaith trafnidiaeth cyffredin: Mae Sir Fynwy a Thorfaen yn rhannu llawer o seilwaith, megis ffordd yr A4042 sy’n rhedeg rhwng y gogledd a’r de ac yn cysylltu trefi’r Fenni (yn Sir Fynwy) a Phont-y-pŵl (yn Nhorfaen) â’i gilydd ac sy’n golygu bod cysylltiadau teithio a chysylltiadau economaidd rhwng yr ardaloedd yn fwy ymarferol. Mae’r ffordd hon yn llwybr o bwys sy’n cysylltu’r ddwy ardal, ac mae’n dangos effeithiolrwydd trafnidiaeth rhwng y gogledd a’r de.
• Gorgyffwrdd economaidd a diwylliannol: Mae gan y ddwy ardal gysylltiadau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol hir oherwydd bod y ddwy ardal mor agos i’w gilydd ac oherwydd eu datblygiadau hanesyddol cyffredin. Er enghraifft, mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, sy’n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, yn agos i’r ffin rhwng Sir Fynwy a Thorfaen ac yn symbol o orffennol diwydiannol annatod y ddwy ardal.
• Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos y cysylltiadau hanesyddol, economaidd a daearyddol rhwng Sir Fynwy a Thorfaen, ac yn golygu bod y cynnig i baru’r etholaethau hyn yn rhesymegol ac yn fanteisiol ar gyfer cynrychiolaeth effeithiol yn y Senedd.
Rhesymeg ddaearyddol glir
Mae’r Comisiwn, yn gywir ddigon, wedi ystyried daearyddiaeth, gan sicrhau bod y ffiniau’n adlewyrchu ardaloedd naturiol, hygyrch. Mae paru Sir Fynwy a Thorfaen â’i gilydd yn parchu’r topograffi naturiol a’r cysylltiadau ffyrdd, ac yn osgoi creu etholaethau gwasgarog a fyddai’n anghydlynus.

Cefnogi etholaethau cyffiniol
Fel y nodwyd yn adroddiad y Comisiwn, mae’r angen i etholaethau fod yn gyffiniol yn rheidrwydd cyfreithiol ac ymarferol. Mae Sir Fynwy a Thorfaen yn cyd-fynd â’i gilydd yn naturiol, a byddai unrhyw baru amgen yn creu rhaniadau artiffisial na fyddent yn fanteisiol i drigolion.

Cynrychioli buddiannau gwledig a threfol
Mae cyfuno tirwedd wledig Sir Fynwy ag ardaloedd mwy trefol Torfaen yn darparu cynrychiolaeth gytbwys. Mae’n sicrhau bod lleisiau gwledig a threfol yn cael eu clywed yn y Senedd, a bod cymeriad unigryw pob ardal yn dal i gael ei adlewyrchu.

Alinio effeithiol â chymunedau sydd i’r gogledd/de
Yng nghyd-destun y parau eraill a gynigir, mae etholaeth Sir Fynwy-Torfaen yn parchu’r modd y mae cymunedau yng Nghymru yn alinio’n naturiol â chymunedau sydd i’r gogledd/de ohonynt. Mae’r dull hwn o weithredu yn osgoi’r rhaniadau problemus rhwng y dwyrain a’r gorllewin, a welwyd mewn ardaloedd eraill, a fyddai’n amharu ar gysylltiadau lleol ac yn creu dryswch diangen.

I gloi, credaf fod y newidiadau a gynigir i ffiniau, yn enwedig paru Sir Fynwy a Thorfaen â’i gilydd, yn adlewyrchu dull ymarferol ac ystyriol iawn o sicrhau cynrychiolaeth effeithiol i drigolion. Rwy’n cefnogi ymdrechion y Comisiwn yn llwyr ac yn annog pobl eraill i rannu eu safbwyntiau.

Diolch am ystyried fy sylwadau.

Yn gywir,
[REDACTED]
Un o drigolion Sir Fynwy

Math o ymatebwr

Aelod o'r cyhoedd

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd