Sylw DBCC-7926
I bwy bynnag a fynno wybod.
Derbyniwch y neges hon fel cefnogaeth i’r Cynigion Cychwynnol ynghylch ffiniau etholaethol gan aelod o’r cyhoedd yng Nghymru.
Nid yw’r etholaethau seneddol fel y maent yn awr yn addas i’r rhan fwyaf o Gymru... Roedd angen edrych yn fanylach o lawer ar y parau.
Mae angen i gysylltiadau lleol a chymunedau gael eu parchu’n fwy helaeth.
Heb os, dylai etholaethau Caerdydd gael eu paru â’i gilydd; ni ddylent gael eu hollti fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Nid yw cysylltiadau lleol yn y cymoedd wedi cael eu parchu bob amser. Byddai eu cysylltu’n agosach â’i gilydd yn adlewyrchu’n fwy helaeth gysylltiadau lleol â chymunedau.
Byddai Cymru yn gwerthfawrogi system lle mae’n hawdd casglu safbwyntiau, a fyddai’n gwneud mwy o synnwyr ac yn adlewyrchu tueddiadau pleidleisio ar ffurf fwy modern sy’n haws ei deall.
Byddwn yn ddiolchgar pe bai modd i chi gadarnhau eich bod wedi cael y neges hon.
Diolch.
Cofion cynnes
[REDACTED] Abertawe.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.