Sylw DBCC-7932
Rwy’n byw yng Nghwm Garw, i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae’n gwm y mae ei ben draw ar gau; does dim ffordd allan ar y top. I bob pwrpas, mae’n gwm nad yw’n arwain i unman.
Yn hanesyddol, mae’r cwm wedi bod yn rhan o ardal Pen-y-bont ar Ogwr erioed, gan fod y dref wrth enau’r cwm ac na allwch deithio i unman mewn gwirionedd heb fynd drwy Ben-y-bont ar Ogwr.
O’r map sy’n dangos y ffiniau a gynigir, mae’n ymddangos eich bod yn ailadrodd y camgymeriad a ddigwyddodd y tro diwethaf y cafodd yr etholaethau seneddol eu hail-lunio.
Rydym wedi cael ein rhoi gyda Phontypridd a chymoedd y Rhondda.
Mae hynny’n ddwl.
Efallai nad ydym yn bell o’r Rhondda fel yr hed y frân, ond nid oes ffordd uniongyrchol o deithio yno heb fynd i gyfeiriad y de drwy Ben-y-bont ar Ogwr, yna i gyfeiriad y dwyrain ar hyd yr M4, ac yna i gyfeiriad y gogledd unwaith eto yn Llantrisant neu Gaerdydd; oni bai eich bod yn teithio i gyfeiriad y de unwaith eto, yna draw i gwm Ogwr ac i fyny’r cwm hwnnw, cyn croesi dros dop y Bwlch – nad yw’n ffordd uniongyrchol, a dweud y lleiaf.
Nid ydym yn rhan o’r un gymuned. Rydym filltiroedd i ffwrdd, sut bynnag y byddech yn teithio.
Nid oes dim i gysylltu ein cymunedau, sydd ar wahân i’w gilydd. Rydym mewn siroedd ac ardaloedd cyngor lleol sy’n wahanol.
Mae Blaengarw, Pontycymer a Llangeinwyr yn rhan o gymuned Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn wir maent yn perthyn i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydych fel pe baech yn tynnu llinellau ar fap heb ystyried y topograffi, cysylltiadau cyfathrebu a hanes y gymuned.
Hyderaf y byddwch yn ailystyried eich cynigion ac yn ystyried y ddaearyddiaeth unigryw sy’n golygu mai ni yw braich ogleddol Pen-y-bont ar Ogwr ac nad oes gennym gysylltiadau uniongyrchol ag unrhyw gymuned arall, i gyfeiriad y dwyrain na’r gorllewin.
Cofion
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.