Sylw DBCC-7946
Adolygiad y Senedd 2026 – Ffiniau arfaethedig ar gyfer etholaethau newydd y Senedd (Medi 2024)
Annwyl Gwnsler Cyffredinol James a'r Comisiwn Ffiniau
Rwy'n gwrthwynebu'r ffiniau Etholaethol arfaethedig gan fy mod yn credu nad ydynt, yn enwedig ar gyfer yr etholaethau gwledig hynny sy’n hynod fawr yn ddaearyddol, yn adlewyrchu demograffeg a barn pleidleiswyr cymunedau lleol sydd wedi hen ymsefydlu yma. Rwy'n byw yn Sir Drefaldwyn, ond yn ddigon anfoddog fy myd i fod yn byw o fewn awdurdod lleol Powys sydd yn llawer rhy fawr. Yn Etholiad Cyffredinol diweddar y DU, cefais fy hun yn rhan o etholaeth ehangach (ac a enwyd mewn ffordd braidd yn rhyfedd) Sir Drefaldwyn a Glyndŵr - rwyf mewn penbleth llwyr o feddwl sut y gallai unrhyw Lywodraeth uno dwy ddemograffeg mor wahanol (a hynny dim ond er mwyn cadw niferoedd pleidleiswyr yn lled-gyfartal ar draws holl etholaethau Cymru).
Ond nawr rwy'n gweld y gallwn fod yn rhan o etholaeth hollol enfawr yn etholiadau'r Senedd yn y dyfodol. Unwaith eto, byddai demograffeg yr etholaeth yn wahanol iawn, ac efallai mai'r unig ffactor a fyddai’n ein huno yw'r ffaith bod yr etholwyr i gyd yn byw rhywle yng Nghymru. Mae hynny'n gwbl anghywir! Mae mor anghywir â chynyddu nifer yr aelodau o’r Senedd o 60 i 96, a’r ffaith na fyddaf yn gallu pleidleisio dros ymgeisydd unigol ar gyfer AS ond yn hytrach y byddaf yn gorfod derbyn un wedi'i orfodi arnaf trwy roi pleidlais i’r Blaid Wleidyddol yn unig. (Sut fydda i'n gallu cyflwyno fy enw fel Ymgeisydd Annibynnol ar gyfer etholaeth 'Dwyfor Meirionydd, Maldwyn a Glyndŵr' yn etholiad nesa'r Senedd).
Gofynnaf i’r ddau ohonoch gydnabod eich bod wedi erbyn yr e-bost hwn, a hoffwn gael rhywfaint o esboniad gan y Cwnsler Cyffredinol y tu ôl i'r newidiadau annemocrataidd hyn i lywodraethu Cymru.
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.