Sylw DBCC-7958
Annwyl Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru,
Fel aelod o’r cyhoedd yng Nghymru, ysgrifennaf i gefnogi yn llwyr gynigion cychwynnol y Comisiwn ar gyfer yr adolygiad o ffiniau yng Nghymru. Ar ôl byw ym Merthyr, Pontypridd, a Phen-y-bont ar Ogwr erbyn hyn, ac ar ôl gweithio yng Nghaerdydd a Chwm Ogwr, rwy’n gwerthfawrogi’r cysylltiadau lleol a chymunedol sydd yn yr ardaloedd hyn.
Mae’r penderfyniad i uno etholaethau â rhai sydd i’r gogledd/de ohonynt yng nghymoedd y de’n hanfodol er mwyn cynnal y clymau cymunedol cryf sy’n diffinio’r ardaloedd hyn. Ar ôl byw ym Merthyr a Phontypridd, credaf fod eich cynnig i grwpio’r ardaloedd hyn gydag Aberdâr yn adlewyrchu’n effeithiol y cysylltiadau cymdeithasol a daearyddol naturiol sydd o fewn yr ardaloedd hyn.
Credaf hefyd fod penderfyniad y Comisiwn i baru Bro Morgannwg â Phen-y-bont ar Ogwr, lle rwy’n byw ar hyn o bryd, yn ddewis ystyriol. Mae’r bartneriaeth hon yn parchu’r cysylltiadau cyffredin rhwng y cymunedau hyn mewn modd sy’n well o lawer na phe bai ardal wledig Bro Morgannwg yn cael ei huno ag un o etholaethau Caerdydd. Byddai pâr o’r fath yn teimlo’n anghydlynus ac yn artiffisial.
Yn ogystal, ar ôl gweithio fel Nyrs Practis yng Nghwm Ogwr, rwy’n cefnogi yn llwyr y cynnig i gyfuno Aberafan, Maesteg, Rhondda ac Ogwr i greu un etholaeth. Mae’r ardaloedd hyn yn rhannu treftadaeth ddiwydiannol gref a chysylltiadau lleol sy’n bodoli ers amser maith, a ddylai gael eu gwarchod yn gywir ddigon yn eich argymhellion terfynol.
Yn olaf, ar ôl gweithio yng Nghaerdydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, rwy’n deall y rhesymeg dros baru Gorllewin Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth. Mae’r A4232 yn darparu cysylltiad cryf rhwng yr ardaloedd hyn, ac mae Afon Taf yn ffin naturiol rhyngddynt a gweddill y ddinas, sy’n golygu bod y cynnig hwn yn un ymarferol a chydlynus.
Hoffwn ganmol y Comisiwn am y ffordd feddylgar y mae wedi cydnabod a gwarchod cysylltiadau lleol ym mhob un o’r cynigion hyn, a hyderaf y bydd y craffter hwn yn parhau’n sail i’r argymhellion terfynol.
Cofion gorau,
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.