Sylw DBCC-7959
Annwyl Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru,
Rwy’n gobeithio eich bod yn cadw’n iawn. Ysgrifennaf i gefnogi’r Cynigion Cychwynnol ar gyfer Adolygiad 2026 o etholaethau’r Senedd.
Credaf fod y modd y cynigir paru etholaethau, yn enwedig yng nghymoedd y de, yn parchu cysylltiadau lleol a chymunedau. Er enghraifft, mae paru Merthyr Tudful ac Aberdâr â Phontypridd yn cydnabod buddiannau cyffredin a chysylltiadau yng nghymunedau’r cymoedd.
Yn ogystal, mae paru Gorllewin Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth yn gwneud synnwyr oherwydd bod yr A4232 yn eu cysylltu’n ddaearyddol â’i gilydd ond bod ffiniau clir rhyngddynt a gweddill Caerdydd.
Hoffwn annog y Comisiwn i lynu wrth y cynigion hyn, oherwydd maent yn gwella cynrychiolaeth effeithiol ac yn adlewyrchu nodweddion unigryw ein cymunedau.
Diolch am ystyried fy sylwadau.
Cofion gorau,
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.