Sylw DBCC-7961
Annwyl Gomisiwn, Ymgynghorwyr,
Ysgrifennaf i gefnogi Cynigion Cychwynnol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, fel aelod o’r cyhoedd yng Nghymru.
Mae’n bwysig bod etholaethau yng nghymoedd y de yn cael eu paru ag etholaethau sydd i’r gogledd neu’r de ohonynt, i fyny ac i lawr y cymoedd. Felly, mae paru Merthyr Tudful ac Aberdâr â Phontypridd yn adlewyrchu cysylltiadau lleol yng nghymunedau’r cymoedd.
Yng Nghaerdydd, rwy’n cefnogi’r ffaith bod y Comisiwn wedi paru Gorllewin Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth, oherwydd bod yr A4232 yn eu cysylltu’n agos â’i gilydd a bod afon Taf yn eu gwahanu oddi wrth weddill Caerdydd.
Yn fy marn i, mae’n rhaid i’r Comisiwn baru Ynys Môn â Bangor Aberconwy, gan fod yr unig gysylltiadau ffyrdd (a rheilffyrdd) sydd rhwng Ynys Môn a’r tir mawr yn mynd drwy Fangor Aberconwy, a bod y ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol yn mynnu bod etholaethau a gaiff eu paru â’i gilydd yn gyffiniol. Pe bai’r Comisiwn yn paru Ynys Môn ag etholaeth arall yn lle hynny, byddai angen i bobl deithio drwy Fangor Aberconwy i fynd o un rhan o’u hetholaeth i ran arall, ac ni fyddai’r etholaeth arall yn gyffiniol ag Ynys Môn.
Felly, credaf mai’r unig ddewis sydd gan y Comisiwn yw paru etholaethau seneddol y DU ar hyd arfordir y gogledd yn y modd y mae wedi’u paru.
Ar ôl paru Ynys Môn â Bangor Aberconwy, mae’n rhaid i’r Comisiwn baru Gogledd Clwyd â Dwyrain Clwyd, gan nad yw Gogledd Clwyd yn gyffiniol ag unrhyw un o etholaethau eraill San Steffan, ar wahân i etholaeth Bangor Aberconwy y mae’n rhaid ei pharu ag Ynys Môn.
Gan fod etholaeth Gogledd Clwyd wedi’i pharu â Dwyrain Clwyd, mae’n rhaid i’r Comisiwn baru Alun a Glannau Dyfrdwy â Wrecsam. Nid yw Alun a Glannau Dyfrdwy yn gyffiniol ag unrhyw un o etholaethau seneddol eraill y DU yng Nghymru, ar wahân i etholaeth Dwyrain Clwyd, sydd wedi’i pharu yn barod â Gogledd Clwyd.
Mae’r ffaith bod yr etholaeth yn fawr yn adlewyrchu poblogaeth denau llawer o gefn gwlad Cymru, o ganlyniad i’r rheolau a ddefnyddiwyd i ffurfio etholaethau seneddol y DU.
O ystyried y drafodaeth uchod, dim ond ag etholaeth Maldwyn a Glyndŵr neu etholaeth Ceredigion Preseli y gellir paru Dwyfor Meirionnydd.
Rwy’n cefnogi cynnig y Comisiwn, oherwydd yr unig opsiwn arall yw paru Dwyfor Meirionnydd ag etholaeth Ceredigion Preseli. Byddai hynny’n creu etholaeth a fyddai’n ymestyn o Gaernarfon i Abergwaun, ac er y byddai ei harwynebedd yn debyg byddai’n golygu mwy fyth o bellter ac o amser teithio i fynd o amgylch yr etholaeth.
Rwyf hefyd yn cefnogi cynigion eraill y Comisiwn ar gyfer paru etholaethau y mae poblogaeth denau’r canolbarth a’r gorllewin yn effeithio arnynt.
Mae’r Comisiwn wedi llwyddo i ystyried ffiniau llywodraeth leol ac wedi cynnal cysylltiadau lleol drwy gynnig ‘Ceredigion a Sir Benfro’ a ‘Sir Gaerfyrddin’ fel etholaethau. Rwy’n cefnogi’r rhain yn frwd.
Mae’r Comisiwn yn gywir o ran egwyddor yn ei gynigion cychwynnol. Os oes modd, gorau oll os gellir parchu topograffi’r cymoedd drwy eu defnyddio i gysylltu etholaethau â’i gilydd o’r gogledd i’r de, yn hytrach na gorfodi etholaethau i ffurfio pâr o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws cymoedd nad ydynt yn rhannu’r un cysylltiadau lleol a chymunedol.
Mae hynny’n amlwg yn achos parau ‘Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd’ a ‘Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili’, lle mae’r etholaethau sydd wedi’u paru â’i gilydd yn cyd-redeg ag amlinellau’r cymoedd o’r gogledd i’r de yn gyffredinol, gan barchu cymunedau a chysylltiadau lleol heb eu hollti. Dyna fyddai’n dueddol o ddigwydd pe baent yn cael eu paru fel arall o’r dwyrain i'r gorllewin.
Yn yr un modd, rwy’n cefnogi cynnig y Comisiwn i baru Casnewydd ag Islwyn, a’r cam naturiol i baru Sir Fynwy a Thorfaen â’i gilydd, sy’n ddwy etholaeth sydd â chysylltiadau hanesyddol.
Rwyf o’r farn bod y Comisiwn hefyd yn gywir i baru cymunedau Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr, sydd â chysylltiadau agos â’i gilydd, yn hytrach na gorfodi cysylltiad annaturiol rhwng etholaeth wledig Bro Morgannwg ac etholaeth yng Nghaerdydd, sef y brifddinas.
Rwyf o’r farn bod cyfuno ardaloedd Aberafan, Maesteg, Rhondda ac Ogwr â’i gilydd fel etholaeth sydd â threftadaeth ddiwydiannol gysylltiedig hefyd yn hybu cysylltiadau lleol.
Rwy’n gobeithio y bydd y gefnogaeth hon o gymorth gyda’r penderfyniadau terfynol.
Cofion gorau,
Diolch.
[REDACTED]
27.09.2024
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.