Sylw DBCC-7966
Annwyl Syr/Madam
Fel un o Gynghorwyr Cymuned Llanilltud Faerdref, hoffwn wneud y sylw canlynol gan ofyn iddo gael ei ystyried.
Credaf y dylai etholaeth Pontypridd gael ei huno â Gorllewin Caerdydd yn hytrach na Merthyr Tudful ac Aberdâr.
Y rheswm am hynny yw bod rhannau mawr o Orllewin Caerdydd yn arfer perthyn i etholaeth seneddol Pontypridd, megis Pentyrch, Creigiau a Gwaelod-y-garth, a bod cysylltiadau cymunedol a chysylltiadau trafnidiaeth cryf rhwng y ddwy etholaeth – megis llwybrau bysiau rheolaidd a phrif reilffordd.
Mae’n fwy anodd o lawer i drigolion Pontypridd deithio i fyny’r cwm i gyfeiriad Aberdâr a Merthyr, ac mae’r ffocws i gyd ar deithio i Gaerdydd yn bennaf – i weithio, siopa a chael adloniant.
Credaf fod y farn hon yn cael ei hategu ymhellach gan y ffaith bod Pont-y-clun wedi’i symud yn ddiweddar i Orllewin Caerdydd, ond bod llawer o bobl yno’n dal i ystyried eu bod yn byw yn etholaeth Pontypridd – rwy’n meddwl bod rhan o Bont-y-clun yn dal i fod ym Mhontypridd. Dylid cywiro hynny er mwyn osgoi dryswch.
Rwy’n ymwybodol y bydd hynny’n effeithio ar etholaethau eraill, ond gellid datrys y broblem drwy uno De Caerdydd a Phenarth â Bro Morgannwg, sydd â chysylltiadau cryf yn barod (ar lefel llywodraeth leol a thrafnidiaeth ac ar lefel gymunedol); uno Pen-y-bont ar Ogwr ag Aberafan Maesteg; ac yn olaf uno Merthyr Tudful ac Aberdâr â Rhondda ac Ogwr.
Credaf y byddai’r trigolion sy’n byw yno yn cefnogi’r rhain i gyd.
Yn gywir
Cynghorydd Brian James
Cynghorydd Cymuned dros Lanilltud Faerdref
Math o ymatebwr
Cynghorydd lleol neu swyddog etholedig arall
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.