Sylw DBCC-7978
Annwyl Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru,
Cyf. ‘Adolygiad Senedd 2026, dweud eich dweud am gynigion ffiniau etholaethau y Senedd’
Yn gryno, rwyf yn cytuno ag etholaethau Senedd arfaethedig y comisiwn, yn enwedig mewn cysylltiad â pharu Merthyr Tudful ac Aberdâr gyda Phontypridd. Fe’m ganwyd ym Mhentre’r Eglwys (Pontypridd) ac rwyf wedi gweithio yn Hirwaun (Aberdâr) ac ym Merthyr Tudful. Yn fy marn i, mae’n gwbl synhwyrol paru etholaethau ar sail y ddaearyddiaeth leol, ac felly hanes yr ardal, gan redeg o’r gogledd i’r de ac nid eu hollti o’r dwyrain i’r gorllewin. Rwyf yn byw yng Nghaerffili ac yn gweithio ym Merthyr Tudful ar hyn o bryd, ac rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’m bywyd yn byw ac yn gweithio yn yr etholaethau hyn. Teimlaf fod trigolion Pontypridd, Merthyr Tudful ac Aberdâr yn rhannu cysylltiadau ac anghenion lleol, ac ymdeimlad cyffredin o gymuned.
Ar yr un sail, mae’n ymddangos bod paru Gorllewin Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth, hefyd yn ddull synhwyrol. Mae’r A4232 yn cysylltu coridor yr M4 yn agos â De Caerdydd, Penarth a Bae Caerdydd. Mae Afon Taf yn ffin daearyddol naturiol ar gyfer Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd. Mae gennyf gyfeillion a theulu yng Ngorllewin Caerdydd a De Caerdydd, ac rwyf yn teimlo, o safbwynt demograffig, fod etholaethau Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth wedi eu halinio’n eithaf da.
Cofion gorau,
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.