Sylw DBCC-7981
Helo,
Hoffwn ddatgan yn glir fy mod yn cefnogi cynnig cychwynnol y Comisiwn a fy mod yn dymuno iddo aros ar waith ar gyfer Cymru gyfan.
Hefyd—
• Mae’n bwysig bod parau etholaethau cymoedd de Cymru yn rhedeg o’r gogledd i’r de i fyny ac i lawr y cymoedd, felly mae paru Merthyr Tudful ac Aberdâr â Phontypridd yn adlewyrchu cysylltiadau lleol yng nghymunedau y cymoedd.
• Yng Nghaerdydd, rydw i’n cefnogi’r Comisiwn yn paru Gorllewin Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth, gan eu bod wedi eu cysylltu’n agos gan yr A4232, ond wedi eu gwahanu oddi wrth weddill Caerdydd gan Afon Taf.
Cofion,
[REDACTED]
Anfonwyd o’m iPhone
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.