Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-7986

Annwyl Syr/Madam/Arall,
Ysgrifennaf ynghylch y newid ffiniau arfaethedig sy’n ymwneud â Cheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Nid wyf yn ifanc, ond rwyf yn hoffi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddiweddariadau gwleidyddol ein gwlad. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oedd y newidiadau arfaethedig y newidiadau hawsaf i’w deall. Fodd bynnag, o ran fy ardal i, Ceredigion, teimlaf yn gyfforddus ynghylch creu cyswllt rhwng yr ardaloedd uchod. Dywedaf hyn oherwydd, yn ystod y deugain mlynedd yr wyf wedi byw yma, fy mod wedi cael sawl cysylltiad â’r ardaloedd hynny, yn enwedig Sir Gaerfyrddin. Felly teimlaf yn gyfforddus pe byddwn yn ymuno â’n gilydd. Gobeithiaf y bydd eich holl waith yn cyfrannu at ddarparu cynrychiolaeth fwy realistig o’n pleidleisiau ar ddiwrnodau pleidleisio. Gwnaeth trafodaethau diweddar â’m hŵyr 23 oed imi deimlo’n drist pan ddywedodd wrthyf nad yw erioed wedi pleidleisio ac nad yw’n bwriadu gwneud hynny. Mae’n credu na fydd ei bleidlais dros ba blaid bynnag yn gwneud unrhyw wahaniaeth oherwydd y ffordd y mae “popeth wedi’i sefydlu”.
Diolch am eich holl waith caled gyda’r mater hwn.
[REDACTED]

Math o ymatebwr

Aelod o'r cyhoedd

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd