Sylw DBCC-7987
Annwyl Syr/Madam:
Rwyf yn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol sy’n cynrychioli ward Llanilltud Faerdref ar CBS Rhondda Cynon Taf. Hoffwn wneud y sylwadau canlynol:
Teimlaf fod achos cryf dros uno etholaeth Pontypridd â Gorllewin Caerdydd, ac nid Merthyr Tudful ac Aberdâr.
Ar un adeg, roedd rhannau helaeth o Orllewin Caerdydd yn Etholaeth Seneddol Pontypridd, gan gynnwys aneddiadau Pentyrch, Creigiau, Gwaelod y Garth, Capel Llanilltern—a gadawodd pob un ohonynt yr etholaeth yn sgil y Pumed Adolygiad Cyfnodol yn 2010. Yn ddiweddar, ychwanegwyd tref Pont-y-clun, sy’n cynnwys Meisgyn a’r Groes-faen, o etholaeth Pontypridd at Orllewin Caerdydd yn sgil Adolygiad Cyfnodol 2023. Mae hyn wedi achosi annormalrwydd etholiadol, oherwydd bod rhannau o ward etholiadol ‘Gorllewin Pont-y-clun’ yn dal i fyw yn etholaeth Pontypridd.
Cefnogir ymuno â Phontypridd a Gorllewin Caerdydd ymhellach oherwydd cysylltiadau cymunedol cryf, gyda’r mwyafrif o etholaeth Pontypridd yn edrych tua’r de tuag at Gaerdydd ar gyfer gwaith, manwerthu a gweithgareddau cymdeithasol. Mae gan aneddiadau Llanharan a Llanhari gysylltiadau enwedig o gryf â Phont-y-clun, fel sydd gan Tonysguboriau a Llantrisant. Mae gan aneddiadau megis Llanilltud Faerdre, Efail Isaf, Pentre’r Eglwys a Thon-teg, gysylltiadau cryf â Chreigiau a Phentrych oherwydd eu hagosrwydd. Cefnogir hyn i gyd gan gysylltiadau trafnidiaeth cryf, gan gynnwys rheilffyrdd a bysiau—nad ydynt mor gryf ar gyfer y trigolion hyn sy’n mynd i Ferthyr ac Aberdâr.
Gan droi at Ferthyr Tudful ac Aberdâr, rwyf yn poeni nad oes gan y mwyafrif helaeth o’r trigolion sy’n byw ym Mhontypridd unrhyw gysylltiad nac affinedd â’r cynnig hwn ac y byddai’n fwy gweddus i’r etholaeth ymuno â’r Rhondda ac Ogwr. Maent yn rhannu cysylltiadau diwylliannol cryf oherwydd eu hanes diwydiannol, ond cysylltiadau seilwaith a thrafnidiaeth cryf. Amlygir hyn ymhellach drwy drosglwyddiad aneddiadau megis Ynys-y-bwl, Glyn-coch a Chilfynydd allan o Gwm Cynon ac i Bontypridd yn yr adolygiad cyfnodol diwethaf—yr oedd pob un ohonynt yn uniaethu yn gadarn â Phontypridd ac nid ag Aberdâr na Chwm Cynon.
Dylid nodi hefyd mai un o gynigion gwreiddiol Adolygiad Cyfnodol 2023 oedd uno etholaethau Rhondda a Chwm Cynon. Roedd hynny eto’n cydnabod y cysylltiadau cryf a rennir gan y ddwy etholaeth hyn.
Yn lle uno De Caerdydd a Phenarth â Gorllewin Caerdydd, byddai’n cael ei huno ag etholaeth Bro Morgannwg. Cefnogir hyn gan y ffaith bod rhannau helaeth o’r etholaeth eisoes yn rhannu ffin llywodraeth lleol yn ogystal ag aneddiadau yn Ne Caerdydd a Phenarth a oedd yn etholaeth Bro Morgannwg yn ddiweddar—ee Dinas Powys. Mae Bro Morgannwg a De Caerdydd a Phenarth yn rhannu cysylltiadau cymunedol a thrafnidiaeth cryf, ac mae’r rhan fwyaf o’r Fro yn edrych tuag at Gaerdydd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, manwerthu a chyflogaeth. Mae trigolion De Caerdydd a Phenarth yn edrych tuag at y Fro ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol a hamdden.
Yn lle uno Pen-y-bont ar Ogwr â Bro Morgannwg, byddai’n uno ag Aberafan Maesteg. Mae’r paru hyn yn gwneud synnwyr oherwydd ffiniau llywodraeth lleol a rennir; mae trigolion Aberafan a Maesteg yn edrych yn bennaf tuag at Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol, manwerthu a chyflogaeth, ac mae cysylltiadau trafnidiaeth cryf rhwng y ddau. Yn yr un modd, mae ganddynt fwy o ‘hanes a rennir’ gyda’i gilydd o’u cymharu â Phen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.
Diolch am eich ystyriaeth yn y mater hwn, ac edrychaf ymlaen at eich ymateb cyn gynted â phosibl.
Y Cynghorydd Karl R Johnson
Cynghorydd CBS Rhondda Cynon Taf
ar gyfer Llanilltud Faerdref ac Efail Isaf
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Cynghorydd lleol neu swyddog etholedig arall
Enw sefydliad
Pencoed Town Council
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.