Sylw DBCC-7989
Diolch am eich gwaith hyd yn hyn.
Credaf eich bod wedi sicrhau’r cydbwysedd gorau posibl â’ch Cynigion Cychwynnol. O ystyried eich gofynion statudol, mae’n anochel y bydd rhai etholaethau yn fawr iawn, a chredaf eich bod wedi gwneud y parau gorau posibl yn yr amgylchiadau sy’n eich wynebu. Rwyf yn cefnogi eich Cynigion Cychwynnol yn eu cyfanrwydd.
Mae’n ymddangos bod eich parau yng ngogledd Cymru yn deillio’n naturiol o’ch angen i baru Ynys Môn â Bangor Aberconwy, o ystyried eich dealltwriaeth o’r hyn y mae ‘cyffiniol’ yn ei olygu, ac rwyf yn ofni y gallai unrhyw benderfyniad arall adael eich argymhellion yn agored i adolygiad barnwrol.
Rwyf yn cefnogi eich cynnig i baru Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, oherwydd bod y Comisiwn Ffiniau Seneddol eisoes wedi rhoi ardal Cwm Tawe yn yr un etholaeth ag Aberhonddu a Maesyfed. O ystyried hynny, mae’r ffaith amlwg bod gan ardal Cwm Tawe gysylltiadau agos â Chastell-nedd, a chysylltiadau rhesymol agos â Dwyrain Abertawe, yn milwrio’n gryf o blaid y parau yr ydych wedi eu cynnig.
Mae’r cymoedd yn cysylltu cymunedau gyda’i gilydd, ond mae’r bryniau rhwng y cymoedd yn eu gwahanu. O ganlyniad, rwyf yn eich canmol am gysylltu etholaethau’r cymoedd o’r gogledd i’r de yn eich parau yn gyffredinol, yn enwedig lle mae’r cymoedd ar eu hiraf yn ne-ddwyrain Cymru. Er enghraifft, mae Cwm Taf a Chwm Cynon yn cysylltu Merthyr Tudful ac Aberdâr yn y drefn honno i lawr at Bontypridd ac mae Cwm Ebwy yn cysylltu Casnewydd ac Islwyn. Diolch am barchu hyn a’r cysylltiadau lleol a chymunedol dilynol.
Rwyf hefyd yn cefnogi eich parau yng Nghaerdydd. Mae’r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth yn dda iawn drwy’r A4232. I’r gwrthwyneb, mae’r cysylltiadau rhwng De Caerdydd a Phenarth a Dwyrain Caerdydd yn gymharol wael oherwydd man cyfyng Ffordd Rover nad yw’n ffordd ddeuol. Mae Afon Taf hefyd yn ffurfio ffin naturiol ac arwyddocaol yn ddiwylliannol i wahanu dau bâr Caerdydd yr ydych wedi eu cynnig yn gywir yn eich cynnig cyntaf, yn fy marn i.
Gobeithiaf yn fawr y byddwch yn cadw at eich Cynigion Cychwynnol synhwyrol ac a ystyriwyd yn dda.
[REDACTED]
Noder: Rwyf wedi rhoi fy nghyfeiriad i chi er gwybodaeth ac nid i’w gyhoeddi.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.