Sylw DBCC-7998
Annwyl Dîm Ymgynghoriadau
Fel dinesydd Cymreig, ysgrifennaf atoch i gefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r system ffiniau, yn enwedig gan fod y map ardaloedd pleidleisio presennol yn dangos bod y system bresennol yn gwbl annheg. Bu hyn yn fantais i un blaid wleidyddol benodol yn unig, yr ydym wedi bod yn sownd â hi mewn grym ers dros ddegawd bellach, a dyma’r rheswm pam nad yw cynifer o bobl yn mynd i’r drafferth i bleidleisio; maen nhw’n teimlo nad yw’n werth chweil oherwydd ein bod ni i gyd yn gwybod pwy fydd yn ennill, hyd yn oed os nad yw’r mwyafrif ohonom ni eisiau iddynt ennill.
Am yr un rheswm, does gen i ddim amheuaeth mai gwleidyddion Llafur Cymru fydd y rhai mwyaf uchel eu cloch wrth brotestio yn erbyn unrhyw newidiadau, oherwydd y byddai’n golygu colli’r fantais annheg honno. Fodd bynnag, mae’n hen bryd i ni, y cyhoedd sy’n pleidleisio, gael system decach, a dyna pam yr wyf yn erfyn arnoch i weithredu’r newidiadau arfaethedig.
Diolch, yn gywir
[REDACTED]
Anfonwyd o’m iPhone
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.