Sylw DBCC-8004
[REDACTED]
Fodd bynnag, hoffwn gyflwyno’r ymateb hwn i’r ymgynghoriad.
Rwyf yn credu bod y Comisiwn yn gywir wrth wneud y parau hyn a chredaf hefyd y dylai’r Comisiwn baru Ynys Môn a Bangor Aberconwy, gan fod yr unig gysylltiadau ffordd (a rheilffyrdd) o Ynys Môn i’r tir mawr drwy Fangor Aberconwy, a bod y ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i etholaethau pâr fod yn gyffiniol. Pe byddai’r Comisiwn yn lle hynny yn paru Ynys Môn ag etholaeth arall, felly byddai angen i bobl deithio drwy Fangor Aberconwy i fynd o un rhan o’u hetholaeth i’r llall, yna ni fyddai’r etholaeth honno’n gyffiniol.
Credaf felly nad oes gan y Comisiwn ddewis ond paru etholaethau Seneddol y DU ar hyd arfordir gogledd Cymru fel y gwnaeth.
Ymhellach, dylai’r Comisiwn baru Gogledd Clwyd â Dwyrain Clwyd, gan nad yw Gogledd Clwyd yn cydgyffwrdd ag unrhyw etholaeth San Steffan arall ac eithrio Bangor Aberconwy y mae’n rhaid ei pharu ag Ynys Môn.
Oherwydd bod Gogledd Clwyd yn cael ei pharu â Dwyrain Clwyd, mae’n rhaid i’r Comisiwn baru Alun a Glannau Dyfrdwy â Wrecsam. Nid yw Alun a Glannau Dyfrdwy yn cydgyffwrdd ag unrhyw etholaeth seneddol arall yn y DU yng Nghymru ac eithrio Dwyrain Clwyd, sydd eisoes wedi ei pharu â Gogledd Clwyd.
Mae’n syniad da ystyried ffiniau llywodraeth leol drwy gynnig ‘Ceredigion a Sir Benfro’ a ‘Sir Gaerfyrddin’ fel etholaethau. Rwyf yn cefnogi’r rhain yn gryf os nad yw’r terfyn ar etholaethau yn gallu creu etholaeth Sir Benfro a fyddai wedi bod yn well. Nid oes cysylltiadau naturiol rhwng Sir Benfro a Cheredigion oherwydd y defnydd cyfyngedig o’r Gymraeg yn Sir Benfro ac yn enwedig yn y De.
Rwyf yn cefnogi etholaeth arfaethedig Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe y Comisiwn.
Mae’n anodd integreiddio cymoedd y de yn briodol i 16 etholaeth yn unig ledled Cymru, ac mae anghysonderau’n anochel.
Mae’r Comisiwn yn iawn mewn egwyddor yn ei gynigion Cychwynnol. Pan fo hynny’n bosibl, mae’n well parchu topograffi y cymoedd, drwy ddefnyddio’r cymoedd hynny i gysylltu etholaethau rhwng y gogledd a’r de, yn hytrach na gorfodi etholaethau i baru rhwng y dwyrain a’r gorllewin ar draws cymoedd nad ydynt yn rhannu’r un cysylltiadau lleol a chysylltiadau cymunedol.
Mae hyn yn amlwg gyda pharau ‘Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd’ a ‘Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerffili’, lle mae’r etholaethau pâr yn rhedeg o’r gogledd i’r de gyda chyfuchliniau y cymoedd i raddau helaeth, gan barchu cysylltiadau a chymunedau lleol, a pheidio â’u rhannu fel y byddai parau eraill o’r dwyrain i’r gorllewin yn tueddu i’w gwneud.
Yn yr un modd, rwyf yn cefnogi pâr arfaethedig Casnewydd ac Islwyn y Comisiwn, a phâr naturiol Sir Fynwy a Thorfaen sy’n cysylltu yn hanesyddol.
Mae’r Comisiwn hefyd yn gywir wrth baru cymunedau clymog Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr, yn hytrach na gorfodi cysylltiad annaturiol rhwng cefn gwlad Bro Morgannwg ac etholaeth o brifddinas Caerdydd.
Mae cyfuno ardaloedd Aberafan, Maesteg, Rhondda ac Ogwr fel etholaeth sydd â threftadaeth diwydiannol cysylltiedig hefyd yn cefnogi cysylltiadau lleol.
Credaf ei bod yn iawn i bedair etholaeth Caerdydd gael eu paru gyda’i gilydd, a bod y Comisiwn wedi cynnig y parau cywir yn y brifddinas.
Mae Dwyrain Caerdydd a Gogledd Caerdydd wedi eu cysylltu’n agosach gan ddaearyddiaeth gan fod Casnewydd, Bryste a choridor yr M4 ymhellach i’r dwyrain i Loegr. Mae Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth yn tueddu i edrych yn fwy tua’r gorllewin ar hyd yr M4 a thuag at Abertawe.
Mae cylymau a chysylltiadau Lleol, a’r rhwydwaith ffyrdd yng Nghaerdydd, yn enwedig yr A4232, yn cysylltu De Caerdydd a Phenarth yn agosaf at Orllewin Caerdydd, sydd hefyd yn wir am Ddwyrain Caerdydd a’r Gogledd gyda’r A48 a’u daearyddiaeth gysylltiedig i’r dwyrain o Afon Taf.
Mae’r bwlch a adewir yn yr hyn a fyddai wedi bod yn ffordd amgylchynol M4/A4232/A48(M) Caerdydd fel arall yn gadael Dwyrain Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth wedi eu cysylltu’n wael â Ffordd Rover nad yw’n ffordd ddeuol. Mae safle gwastraff Ffordd Lamby ac Afon Rhymni hefyd yn cyfrannu at gysylltedd cymharol wael rhwng y ddwy etholaeth seneddol y DU hyn.
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.