Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-8007

Adolygiad 2026 o Etholaethau y Senedd
Ymateb i Ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol
Medi 2024
Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru (BCEC)
Mae Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru (BCEC) wedi bodoli ers 2017. Er ei fod yn gweithredu o dan drefniad gwirfoddol ar hyn o bryd, heb unrhyw sail statudol na phwerau ffurfiol, a than yn ddiweddar iawn, heb unrhyw gyllid grant cenedlaethol, cydnabyddir BCEC gan y rhwydwaith etholiadau proffesiynol, partneriaid cenedlaethol a’r ddwy lywodraeth.
Mae BCEC yn gwneud yr hyn a ganlyn:
• cydlynu’r gwaith o gynllunio ac yn dadrisgio pob digwyddiad etholiadol yng Nghymru—etholiadau na chedwir yn ôl ac etholiadau a gedwir yn ôl;
• cynghori ar y broses o gynllunio, drafftio a gweithredu polisi diwygio etholiadol, deddfwriaeth ac arloesedd profi/peilot, a pholisïau ac adolygiadau eraill,
• cynnal a chefnogi rhwydwaith cadarn o swyddogion canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol; a
• hybu arferion da, arloesol a chyson.
Swyddogaeth BCEC wrth wneud ymatebion i’r ymgynghoriad
Gall BCEC ddarparu cyngor arbenigol ar (1) ymarferoldeb gweithredu darpariaethau deddfwriaeth ddrafft ar ôl eu cyhoeddi, a hefyd ar bolisïau cenedlaethol ac adolygiadau eraill (2) y risgiau y bydd angen eu rheoli i sicrhau y gellir gweinyddu unrhyw ddiwygio etholiadol, cofrestru etholiadol parhaus a’r digwyddiadau etholiadol eu hunain yn effeithlon ac yn ddiogel, gyda gonestrwydd, a chydag ymddiriedaeth a hyder yr etholwyr a’r holl randdeiliaid a (3) y gofynion adnoddau ar gyfer swyddogion canlyniadau a thimau gwasanaethau etholiadau mewn awdurdodau lleol a’u partneriaid cenedlaethol.
Mae’r Bwrdd yn cyfrannu at ddatblygu a drafftio deddfwriaeth ac adolygiadau polisi—o’r gysyniadaeth hyd eu cyhoeddiad—yn y cefndir, drwy gyswllt agos â gweision sifil, gyda phartneriaid cenedlaethol ac ochr yn ochr â nhw.
 
Ymateb i’r Ymgynghoriad
Adolygodd BCEC gynigion cychwynnol y Comisiwn ar gyfer adolygiad Etholaethau y Senedd, a pharu’r 32 Etholaeth Seneddol i ffurfio 16 Etholaeth Senedd newydd, yn ei gyfarfod ddechrau mis Medi.
Mae BCEC yn cydnabod bod y ddeddfwriaeth ar gyfer yr ymarfer adolygu yn rhagnodol o ran nifer a dosbarthiad yr etholaethau, a chyda’r ffactorau statudol, wrth benderfynu ar y dewisiadau paru. O ystyried rhagweladwyedd y cynigion cychwynnol a wnaed, a’r rhesymeg sy’n sail i’r dewis o barau i sicrhau cydymffurfiaeth â’r presgripsiwn deddfwriaethol, nid oes gennym unrhyw awgrymiadau penodol i’w gwneud i wella’r cynigion cychwynnol.
O ystyried yr angen i gydymffurfio â’r presgripsiwn deddfwriaethol, a’r cyfyngiadau eithafol ar ddewisiadau i wneud hynny, ni fyddem yn disgwyl llawer yn realistig pe byddai unrhyw newid rhwng y cynigion cychwynnol a’r cynigion terfynol a ddaw i’r amlwg ar ôl ymgynghori.
Gofynnwn i unrhyw gynigion lleol eraill a gyflwyner gan awdurdodau lleol gael eu hystyried yn llawn—boed yn unigol neu’n glystyrau—lle gwneir dadl gref ac sy’n cydymffurfio. Gofynnwn ichi roi sylw penodol i ddadleuon a wneir tros enwau amgen ar gyfer etholaethau, ac yn fwy priodol, o dan y gofyniad uniaith.
Diolch am y cyfle i wneud sylwadau ac i gyfrannu.

Math o ymatebwr

Ar ran sefydliad (preifat neu gyhoeddus)

Enw sefydliad

Wales Electoral Coordination Board

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd