Sylw DBCC-8011
Annwyl Syriaid,
Gweler y llythyr isod i’ch sylw.
Yn gywir,
[REDACTED]
[REDACTED]
Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
Llawr Gwaelod, Hastings House
Fitzalan Court
Caerdydd
CF24 0BL
Trwy e-bost i: consultations@boundaries.wales
27 Medi 2024
Annwyl Syriaid,
Ysgrifennaf atoch er mwyn ymateb i’r ymgynghoriad a lansiwyd ar 3 Medi 2024 mewn cysylltiad ag Adolygiad Senedd 2026 (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “y ddogfen”).
Rwyf yn croesawu ethol Aelodau o’r Senedd (ASau) yn gwbl seiliedig ar system cynrychiolaeth cymesur. Ystyriaf fod hyn yn gynrychiolaeth llawer tecach o’r dadansoddiad o bleidleisiau, felly mae’n fwy tebygol o wella nifer y pleidleiswyr sy’n pleidleisio a lleihau difaterwch pleidleiswyr. Rwyf yn anghytuno’n gryf â’r cynnydd yn nifer yr ASau i 96 ac er nad yw’r pwynt penodol hwn yn ddarostyngedig i’r ymgynghoriad hwn, gofynnaf yn barchus ichi nodi fy ngwrthwynebiad.
O ran y materion penodol o dan yr ymgynghoriad, amlinellir fy safbwyntiau isod, sef:
Bangor Aberconwy Ynys Môn. O ystyried mai dim ond cysylltiadau cyfathrebu a ffyrdd sydd gan Ynys Môn â Bangor Aberconwy (para.1.2 o’r ddogfen), rwyf yn cytuno ag uniad arfaethedig dwy etholaeth y DU.
Clwyd. Rwyf yn cytuno ag uniad arfaethedig Gogledd Clwyd a Dwyrain Clwyd, yn enwedig o gofio bod rhaid uno Bangor Aberconwy ag Ynys Môn.
Alun, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam (Alyn, Deeside and Wrexham). Rwyf yn cytuno â chynnig y Comisiwn ar gyfer yr etholaeth honno, ar sail meini prawf y ffiniau. Fodd bynnag, mae’r Comisiynydd wedi cynnig y defnydd o “un sillafiad: Alun” (para. 3.3 o’r ddogfen). Does dim esboniad dros y penderfyniad hwn ond mae’n debyg y byddai newid y sillafiad Saesneg o ‘Alyn’ i Alun yn arwain at gamsillafu enw sydd wedi hen sefydlu. O’r herwydd, nid yw’r newid arfaethedig yn y fersiwn Saesneg yn gwneud llawer o synnwyr i siaradwyr Cymraeg a Saesneg. Gofynnaf yn barchus i’r Comisiynydd ystyried dychwelyd i enw ‘Alyn’ ar gyfer fersiwn Saesneg yr etholaeth hon. 2
Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr (Dwyfor Meirionnydd, Montgomeryshire and Glyndŵr). Er bod yr etholaeth arfaethedig yn cwmpasu ardal sylweddol yn ddaearyddol, dyma’r dewis gorau ar gyfer cyfuno dwy etholaeth seneddol y DU cyffiniol yn yr ardal.
Ceredigion a Sir Benfro (Ceredigion and Pembrokeshire). Rwyf yn cytuno’n gryf â pharu arfaethedig ddwy etholaeth Seneddol y DU a fyddai’n uno Sir Benfro yn un etholaeth (mae cynnig tebyg yn achos Clwyd).
Sir Gaerfyrddin (Carmarthenshire). Rwyf yn cytuno’n gryf â pharu arfaethedig dwy etholaeth Senedd y DU a sefydlu cysylltiadau lleol rhwng yr ardaloedd hyn.
Gorllewin Abertawe a Gŵyr (Swansea West and Gower). Rwyf yn cytuno â pharu arfaethedig dwy etholaeth Senedd y DU a sefydlu cysylltiadau lleol rhwng yr ardaloedd hyn.
Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe (Brecon, Radnor, Neath and Swansea East). Rwyf yn cytuno â pharu arfaethedig dwy etholaeth Senedd y DU a sefydlu cysylltiadau lleol rhwng yr ardaloedd hyn.
Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr (Aberafan Maesteg, Rhondda and Ogmore). Rwyf yn cytuno â pharu arfaethedig dwy etholaeth Senedd y DU a sefydlu cysylltiadau lleol rhwng yr ardaloedd hyn.
Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd (Merthyr Tydfil, Aberdare and Pontypridd). Mae’r parau rhwng y gogledd a’r de yn ddewis amgenach na pharu rhwng y dwyrain a’r gorllewin. Rwyf yn cytuno â pharu arfaethedig dwy etholaeth Senedd y DU a sefydlu cysylltiadau lleol rhwng yr ardaloedd hyn.
Blaenau Gwent, Rhymni a Chaerfili (Blaenau Gwent, Rhymney and Caerphilly). Mae’r parau rhwng y gogledd a’r de yn ddewis amgenach na pharu rhwng y dwyrain a’r gorllewin. Rwyf yn cytuno â pharu arfaethedig dwy etholaeth Senedd y DU a sefydlu cysylltiadau lleol rhwng yr ardaloedd hyn.
Sir Fynwy a Thorfaen (Monmouthshire and Torfaen). Rwyf yn cytuno â pharu arfaethedig dwy etholaeth Senedd y DU a sefydlu cysylltiadau lleol rhwng yr ardaloedd hyn.
Casnewydd ac Islwyn (Newport and Islwyn). Rwyf yn cytuno â pharu arfaethedig dwy etholaeth Senedd y DU a sefydlu cysylltiadau lleol rhwng yr ardaloedd hyn. 3
Dwyrain a Gogledd Caerdydd (Cardiff East and North). Rwyf yn cytuno â pharu arfaethedig dwy etholaeth Senedd y DU, yn unol â’r cysylltiadau lleol sefydledig rhwng yr ardaloedd hyn, y seilwaith ffyrdd a daearyddiaeth yr ardal.
Gorllewin Caerdydd, De a Phenarth (Cardiff West, South and Penarth). Rwyf yn cytuno â pharu arfaethedig dwy etholaeth Senedd y DU, yn unol â’r cysylltiadau lleol sefydledig rhwng yr ardaloedd hyn, y seilwaith ffyrdd a daearyddiaeth yr ardal.
Bro Morgannwg a Phen-y-bont (Vale of Glamorgan and Bridgend). Rwyf yn cytuno â pharu arfaethedig dwy etholaeth Senedd y DU a sefydlu cysylltiadau lleol rhwng yr ardaloedd hyn.
Yn gywir
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.