Sylw DBCC-8015
Annwyl Syr/Madam
Fel un o gynghorwyr tref gymunedol Llantrisant, hoffwn wneud y sylwadau a ganlyn:
Credaf fod achos cryf dros uno etholaeth Pontypridd â Gorllewin Caerdydd, ac nid Merthyr Tudful ac Aberdâr.
Dyma’r rhesymau dros hyn:
1) Ar un adeg, roedd rhannau helaeth o Orllewin Caerdydd yn Etholaeth Seneddol Pontypridd, mae’r rhain yn cynnwys aneddiadau Pentyrch, Creigiau, Gwaelod y Garth, Capel Llanilltern, a hyd yn Radur rwy’n credu—a gadawodd pob un ohonynt yr etholaeth yn sgil y Pumed Adolygiad Cyfnodol yn 2010.
2) Ychwanegwyd tref Pont-y-clun, sy’n cynnwys Meisgyn a’r Groes-faen, o etholaeth Pontypridd at Orllewin Caerdydd yn sgil Adolygiad Cyfnodol 2023. Mae hyn ynddo ei hun wedi achosi annormalrwydd etholiadol, oherwydd bod rhannau o ward etholiadol ‘Gorllewin Pont-y-clun’ yn dal i fyw yn etholaeth Pontypridd, fel yr amlygir hefyd yn eich cynigion cychwynnol.
3) Cefnogir ymuno â Phontypridd a Gorllewin Caerdydd ymhellach oherwydd cysylltiadau cymunedol cryf, gyda’r mwyafrif o etholaeth Pontypridd yn edrych tua’r de tuag at Gaerdydd ar gyfer gwaith, manwerthu a gweithgareddau cymdeithasol. Yn wir, mae gan aneddiadau Llanharan a Llanhari gysylltiadau enwedig o gryf â Phont-y-clun, fel sydd gan Tonysguboriau a Llantrisant.
4) Mae gan Lanilltud Faerdre, Efail Isaf, Pentre’r Eglwys a Thon-teg, gysylltiadau cryf â Chreigiau a Phentrych oherwydd eu hagosrwydd.
5) O ran Merthyr Tudful ac Aberdâr, credaf yn bersonol nad oes gan y mwyafrif helaeth o drigolion sy’n byw ym Mhontypridd unrhyw gysylltiad nac affinedd o gwbl â’r cynnig hwn, fel yr amlinellir yn y paragraff blaenorol, ac y byddai’n fwy gweddus i’r etholaeth ymuno â’r Rhondda ac Ogwr, sy’n rhannu cysylltiadau diwylliannol cryf oherwydd eu hanes a’u hetifeddiaeth ddiwydiannol yn ogystal â seilwaith a chysylltiadau trafnidiaeth cryf.
6) Dangosir hyn ymhellach gan drefi a phentrefi amrywiol megis Ynys-y-bwl, Glyn-coch a Chilfynydd allan o Gwm Cynon ac i Bontypridd yn yr adolygiad cyfnodol diwethaf—yr oedd pob un ohonynt yn uniaethu yn gadarn â Phontypridd ac nid ag Aberdâr na Chwm Cynon.
7) O’r cynigion cynharach, credaf y cynigiwyd uno etholaethau Rhondda a Chwm Cynon. Roedd hynny eto’n cydnabod y cysylltiadau cryf a rennir gan y ddwy etholaeth hyn.
Diolch am eich ystyriaeth yn y mater hwn, ac edrychaf ymlaen at eich ymateb cyn gynted â phosibl.
Diolch
Y Cynghorydd Adam Robinson
Anfonwyd o’m iPhone
Math o ymatebwr
Cynghorydd lleol neu swyddog etholedig arall
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.