Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-8025

Plaid Lafur Etholaeth Gogledd Caerdydd

YMATEB I GYNIGION CYCHWYNNOL COMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU

Rydym yn croesawu cynigion cychwynnol y Comisiwn i’r graddau eu bod yn cadw pedair etholaeth Seneddol Caerdydd ynghyd, sy’n cwmpasu Cyngor Caerdydd cyfan. Fodd bynnag, awgrymwn fod y Comisiwn yn ailystyried ei benderfyniad i baru Gorllewin Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth. Yn hytrach, rydym yn cynnig paru Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd, a De Caerdydd a Phenarth â Dwyrain Caerdydd.
Yn gryno, awgrymwn fod paru Gorllewin a Gogledd Caerdydd yn gyfuniad sy’n cyd-fynd yn gryfach â natur newidiol Caerdydd, a’r dewisiadau a’r penderfyniadau sydd o’n blaenau. Yn ogystal â chysylltiadau hanesyddol a diwylliannol dwfn sy’n llifo mewn cyfeiriad llorweddol ar draws y ddwy etholaeth, bydd dinasyddion a chymunedau Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd yn elwa yn ystod y degawd nesaf o gynrychiolaeth ar y cyd yn y Senedd gan set o gynrychiolwyr a rennir.
Dosberthir y cysylltiadau cryf a naturiol rhwng Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd a’r manteision o gynrychiolaeth a rennir yn chwe phrif thema:

1. Y Gymraeg a’i thwf yng Nghaerdydd. Er mai Caerdydd yw’r ardal mwyaf niferus ac sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru o ran y Gymraeg, crynhoir y duedd hon, mewn gwirionedd, yng Ngorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd. Mae gan bedair ward ar ddeg yng Nghaerdydd fwy o siaradwyr Cymraeg na chyfartaledd Caerdydd, sef 10.1%; o’r rhain, mae un ar ddeg yng Ngorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd, gan gynnwys yr wyth ward sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg1. Gellir dadlau mai’r ardaloedd hyn yw cadarnleoedd newydd y Gymraeg ac maent yn ffurfio bloc cyffiniol sy’n ymestyn o’r Gorllewin i’r Dwyrain, o Greigiau a Phentyrch yn y Gogledd Orllewin, draw at Lys-faen yn y Dwyrain, gan gynnwys y ddwy ysgol uwchradd a gysylltir yn hanesyddol yng Nglantaf a Phlasmawr. Byddai uno’r ardaloedd hyn o dan set gyffredin o gynrychiolwyr yn y Senedd yn gwneud cynrychioli eu cymeriad ieithyddol cyffredin yn effeithiol yn fwy tebygol, er mwyn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
1 Diffinnir fel y rhai sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021.

2. Cymeriad cymunedol a chysylltiadau lleol yn y pentref. Nodweddir band gogledd-orllewinol Caerdydd gan nifer o gymunedau pentrefol, mewn cyferbyniad â natur gynhenid canol y ddinas a llawer o rannau dwyreiniol a deheuol y ddinas sy’n ymestyn at yr arfordir sy’n fwy trefol. Amlygir natur wahanol iawn nodweddion cymunedol a rennir yn y band gogledd-orllewinol hwn gan y ffaith bod pob un o chwe Chyngor Cymuned Caerdydd yng Ngogledd Caerdydd (Llys-faen; Pentref Laneirwg; Tongwynlais) ac yng Ngorllewin Caerdydd (Radur a Threforgan; Pentyrch; Sain Ffagan). Mae bondiau cymunedol hefyd yn bodoli ar draws nifer o bentrefi “Dyffryn Taf”, megis Gwaelod y Garth a Ffynnon Taf, sy’n ymestyn ar draws y ffin rhwng Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd. Mae cysylltiadau agos hefyd yn bodoli o ran nifer o wasanaethau lleol, er enghraifft dalgylch Ysgol Gyfun Radur sy’n ymestyn dros ffin yr afon a’r etholaeth i gynnwys Tongwynlais. Byddai uno’r cymunedau hyn o dan set gyffredin o gynrychiolwyr yn y Senedd yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd eu diddordebau a’u nodweddion cyffredin, gan gynnwys strwythurau llywodraethu, yn cael eu cynrychioli’n effeithiol. Mae llawer o’r diddordebau cyffredin hyn yn adlewyrchu natur dyffryn Afon Taf fel cyswllt trafnidiaeth hanfodol ar gyfer y rhanbarth.

3. Datblygu ac ehangu’r ddinas tua’r gogledd-orllewin yn y dyfodol. Crynhoir y gwaith ehangu a datblygu tai diweddar yng Nghaerdydd yng ngogledd-orllewin y ddinas (e.e. Llys-faen, Pontprennau, Radur/Plasdŵr). Mae hyn yn creu crynhoad o drigolion newydd i’r ddinas y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt rannu nodweddion ac anghenion demograffig o ran cynrychiolaeth ddemocrataidd. Mae hefyd yn debygol iawn y canolbwyntir llawer o’r datblygiad yn y dyfodol yn y rhan hon o’r ddinas, o ran ystyried datblygiadau newydd yn ogystal â diogelu tirweddau presennol (e.e. y “Lletem Las” y cyfeirir ati yn strategaeth CDLl a ffefrir Cyngor Caerdydd, sy’n rhychwantu’r rhan fwyaf o ffin ogleddol Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd). Un set o gynrychiolwyr fydd yn y sefyllfa orau i gynrychioli trigolion lleol yn gydlynol wrth i’r materion a’r penderfyniadau hyn gael eu hystyried yn ystod y degawd(au) nesaf.

4. Ffiniau awdurdodau lleol gyda RhCT. Fel y nodir gan y Comisiwn, byddai’r cynigion cychwynnol yn golygu y byddai aelodau y Senedd ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth yn cynrychioli wardiau sydd ar draws tri awdurdod lleol y mae gan bob un ohonynt gymeriad a phriodoleddau gwahanol. Byddai hyn yn golygu bod angen i gynrychiolwyr ymgyfarwyddo â thair set o bolisïau a rhanddeiliaid llywodraeth leol, sy’n debygol o fod yn niweidiol i ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i’r etholwyr. Byddai gan ein gwrthgynnig o baru Gorllewin Caerdydd â Gogledd Caerdydd y fantais o gyfyngu’r cymhlethdod hwn drwy gynnwys wardiau RhCT (Ffynnon Taf a Phont-y-clun) yn yr un etholaeth Senedd. Byddai hefyd yn cynyddu cydlyniad cysylltiadau cymunedol ar draws ffiniau Awdurdodau Lleol, er enghraifft uno dwy ardal a gysylltir yn agos, Ffynnon Taf a Gwaelod y Garth, mewn un sedd.

5. Cludiant a symud rhwng y gorllewin a’r gogledd i breswylwyr. Er y gellir dadlau bod coridorau trafnidiaeth i’r ddinas ar gyfer cymudwyr yn rhedeg yn bennaf rhwng y gogledd a’r de, mewn gwirionedd, mae patrwm a chyfeiriad teithiau dyddiol preswylwyr yn cydgyfeirio ar nifer o lwybrau a safleoedd allweddol ar draws Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd. Mae’r A48 (Western Avenue) sy’n ymestyn o’r Mynydd Bychan/Mynachdy yng Ngogledd Caerdydd at ffin Gorllewin Caerdydd yng Nghroes Cwrlwys yn dramwyfa bwysig i drigolion sy’n gwneud teithiau dyddiol. Yn yr un modd, mae trigolion Gorllewin Caerdydd, gan gynnwys y rhai yn ward Pont-y-clun a ychwanegwyd at y gogledd yn ddiweddar, yn debygol o deithio’n rheolaidd drwy’r ddwy brif groesffordd yn Coryton a Mynchady, y lleolir y ddwy ohonynt yng Ngogledd Caerdydd. Mae coridor yr M4 i’r gogledd, ynghyd â’r A48 i’r de a’r A470 sy’n cysylltu’r ddau, yn creu cysylltiad enwedig o gryf ar draws lled etholaeth Gorllewin Caerdydd-Gogledd Caerdydd. Atgyfnerthir hyn yn gryf gan drydaneiddio Dyffryn Taf a gorsafoedd Metro newydd arfaethedig i wasanaethu’r rheilffordd sy’n cysylltu dwy ochr yr afon yn gyfleus yn Llandaf a Ffynnon Taf (Gogledd Caerdydd) a Radur (Gorllewin Caerdydd). Mae’r datblygiad rheilffordd Trafnidiaeth Cymru hwn yn canolbwyntio’n hanfodol ar y Depo newydd yn Ffynnon Taf, yn uniongyrchol ar ryngwyneb Afon Taf Gogledd Caerdydd/Gorllewin Caerdydd rhwng Caerdydd a’r cymoedd.

6. Daearyddiaeth naturiol. Yn ddaearyddol, mae gan Gaerdydd ddwy ffin wahanol yn y Gogledd a’r De. Nodweddir ei ffin ogleddol gan y gadwyn o fryniau sy’n ymestyn ar draws Gogledd Caerdydd (Craig Llys-faen, Y Wenallt a Chraig yr Allt yn Nantgarw) hyd at Orllewin Caerdydd (Mynydd y Garth a Soar). Mae hyn yn uno Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd yn unigryw, mewn cyferbyniad, mae De Caerdydd a Phenarth a Dwyrain Caerdydd rhyngddynt yn cynnwys ffin ddeheuol ac arfordirol Caerdydd yn ei chyfanrwydd. Mae hefyd yn wir bod Afon Taf, a allai ymddangos yn rhaniad naturiol rhwng Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd ar yr olwg gyntaf, yn ffynhonnell gref o hunaniaeth gyffredin i gymunedau ar hyd y naill ochr i Gwm Taf mewn gwirionedd, gan rychwantu Ffynnon Taf, yr Eglwys Newydd ac Ystum Taf a Gabalfa yng Ngogledd Caerdydd, a Llandaf a Radur yng Ngorllewin Caerdydd. Cynhwysir cwrs maes glas yr afon gyfan yng Nghaerdydd yn y ddwy etholaeth hyn, ac mae materion cynaliadwyedd, diogelwch ecolegol (llifogydd), ansawdd a’r defnydd o ddŵr yn creu diddordeb cyffredin ar draws y ddwy etholaeth a fyddai’n elwa o gynrychiolaeth ar y cyd (yn ogystal ag un cyswllt etholaethol â RhCT i fyny’r afon). Mae hyn yn adleisio ac yn atgyfnerthu arwyddocâd y cysylltiadau rheilffordd drwy Ogledd a Gorllewin Caerdydd.

Credwn fod pob un o’r themâu hyn yn dangos cryfder y cysylltiad rhwng Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd a’r manteision y byddai dinasyddion yn eu cael yn sgil cael eu cynrychioli ar y cyd mewn un etholaeth yn y Senedd. Nodwn hefyd na fyddai penderfyniad y Comisiwn i fabwysiadu’r parau hyn (na pharau dilynol De Caerdydd a Phenarth a Dwyrain Caerdydd) yn cael sgil-effaith ar barau arfaethedig eraill. O’r herwydd, rydym yn galw ar y Comisiwn i adolygu ei gynigion ac i gyfuno Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd yn Etholaeth Senedd newydd Gogledd Caerdydd-Gorllewin Caerdydd.

Math o ymatebwr

Ar ran sefydliad (preifat neu gyhoeddus)

Enw sefydliad

Cardiff North Constituency Labour Party

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd