Sylw DBCC-8053
Diolch am wahodd fy safbwyntiau yn yr ymgynghoriad hwn.
Yn fras, rwyf yn cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig cychwynnol. Ar ôl gweithio ledled Cymru am fwy na 40 mlynedd, gallaf weld y rhesymeg y tu ôl i ‘uno’ etholaethau cyfagos yng nghyd-destun y gofyniad ‘ffin gyffiniol’.
Mae’r cynigion wedi arwain at etholaethau mawr yng nghefn gwlad canolbarth a gorllewin Cymru, ond ar ôl gweithio’n helaeth yn yr ardaloedd hynny gallaf werthfawrogi bod eu poblogaethau isel wedi arwain at y ffiniau arfaethedig.
Yn un o drigolion Ceredigion, gallaf werthfawrogi ei haffinedd â Sir Benfro, a’i mynediad parod iddi, sy’n gwneud paru’r ardaloedd hyn yn ddewis rhesymegol fel un etholaeth.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.