Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-8059

Fel pleidleisiwr cofrestredig yn ne Cymru, rwyf yn gadarn yn erbyn pob cynnig i ychwanegu a newid etholaethau ac i gynyddu aelodau y Senedd.
Ac eithrio:

Mae’n bwysig bod parau etholaethau cymoedd de Cymru yn rhedeg o’r gogledd i’r de i fyny ac i lawr y cymoedd, felly mae paru Merthyr Tudful ac Aberdâr â Phontypridd yn adlewyrchu cysylltiadau lleol yng nghymunedau y cymoedd.

Yng Nghaerdydd, rydw i’n cefnogi’r Comisiwn yn paru Gorllewin Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth, gan eu bod wedi eu cysylltu’n agos gan yr A4232, ond wedi eu gwahanu oddi wrth weddill Caerdydd gan Afon Taf.

Mae pob cynnig arall yn y mater hwn yn anghynaladwy o safbwynt gweinyddol ac ariannol, sy’n ei wneud yn newid costus a diangen.

Y bwriad amlwg i unrhyw un a phob un sy’n edrych ar ddatblygiad arfaethedig yr etholaethau yw dylanwadu ar y canlyniadau pleidleisio yn yr etholiad nesaf.

Mor frawychus ag y bo hynny i’w ddarllen, mewn gwirionedd, dim ond i’r blaid Lafur y mae hynny’n gwneud synnwyr.

Nid wyf yn cydsynio nac yn cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig hyn.

[REDACTED]

Anfonwyd o’m Galaxy

Math o ymatebwr

Aelod o'r cyhoedd

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd