Sylw DBCC-8068
Prynhawn da,
Gweler isod ymateb ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i’r ymgynghoriad ar baru etholaethau:
Mae CLlLC yn cydnabod bod Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, wrth gynnal yr arolwg o’r etholaethau arfaethedig ar gyfer etholiadau’r Senedd, yn rhwym wrth feini prawf a osodir mewn deddfwriaeth, sef bod rhaid iddo baru’r 32 o etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig i gyrraedd y nifer penodedig o 16 o etholaethau ar gyfer Cymru gyfan. Roedd hefyd yn ofynnol i’r Comisiwn ystyried ffactorau eraill fel ffiniau llywodraeth leol, ystyriaethau daearyddol arbennig a chysylltiadau lleol a fyddai’n cael eu torri gan y parau.
Ar lefel strategol, mae CLlLC yn nodi cynigion y Comisiwn a’r sail resymegol a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad. Mae CLlLC yn cydnabod efallai y bydd gan rai o’i haelod-awdurdodau faterion penodol y gallent eu codi o safbwynt gweithredol, gweinyddol neu hanesyddol. Gellir mynegi’r safbwyntiau hyn yn uniongyrchol gyda’r Comisiwn a byddant yn seiliedig ar wybodaeth fanwl a chydnabyddiaeth o safbwyntiau eu cymunedau lleol.
Diolch,
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Ar ran sefydliad (preifat neu gyhoeddus)
Enw sefydliad
Welsh Local Government Association
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.