Sylw DBCC-8071
Prynhawn da
Gweler ynghlwm llythyr gan [REDACTED] Prif Weithredwr er eich sylw.
Gyda diolch / With thanks
[REDACTED]
Arolwg 2026 – Cynigion Cychwynnol
Diolch am y cyfle i gyfrannu sylwadau ar eich cynigion cychwynnol ar gyfer ffiniau etholaethau Senedd Cymru.
Mae’r cynigion wedi cael eu hystyried gan swyddogion ac arweinyddion gwleidyddol Cyngor Sir Ynys Môn, er bod cyfnod byr yr ymgynghoriad wedi gwneud hynny’n heriol iawn.
Rydym yn deall bod yr adolygiad yn cael ei gynnal ar sail gofynion a osodwyd gan Ddeddf Senedd Cymru 2024 a bod hynny’n cyfyngu yn sylweddol ar sgôp yr adolygiad. Er enghraifft, yr angen i’r Comisiwn bennu 16 ardal etholaeth ac i'r etholaethau gael eu ffurfio drwy gyfuno 2 etholaeth senedd Prydain sydd yn rhannu ffin.
Er hynny, mae’n rhaid i ni ddatgan ein pryder am effaith creu etholaethau mor fawr ar ddemocratiaeth lleol. Mae risg bydd yr etholaethau yn erydu’r cyswllt sy’n bodoli rhwng etholwyr a’r rhai sy’n eu cynrychioli. Gall y cynigion hefyd erydu’r ddealltwriaeth a’r arbenigedd lleol sydd gan Aelodau Etholedig ac mewn etholaethau mor fawr, mae’n annhebygol bydd cysylltiadau cymdeithasol ac economaidd agos rhwng rhai o’r cymunedau.
Pryder arall sydd gennym ni ydi cost cynnal arolwg arall ar ôl etholiadau’r Senedd yn 2026 yn arbennig yn yr hinsawdd ariannol presennol. A fyddai’n well oedi’r etholiadau am flwyddyn er
mwyn rhoi amser i gynnal un arolwg cynhwysfawr?
O safbwynt y cynnig penodol i Ynys Môn ac er mwyn cadw at ofynion y Ddeddf, deallwn bod rhaid i’r etholaeth gael ei chyfuno gyda etholaeth seneddol arall sy’n ffinio. Dim ond dwy etholaeth arall sy’n rhannu ffin ar draws y Fenai gyda Ynys Môn, sef Dwyfor Meirionnydd a Bangor Aberconwy. Mae’r cysylltiadau ffyrdd fodd bynnag gyda Bangor Aberconwy oherwydd lleoliad y ddwy bont. Felly rydym yn cytuno mai dyna’r unig gyfuniad sy’n sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth ac etholaeth gydlynus.
I grynhoi, credwn mai cyfuno Ynys Môn gyda Bangor Aberconwy ydi’r unig gynnig sy’n cydymffurfio yn llawn gyda gofynion yr arolwg. Felly cytunwn gyda chynnig y Comisiwn. Er hynny ac fel rydym wedi nodi, mae gennym bryderon sylfaenol gyda’r symudiad tuag at etholaethau mawr ac erydiad cysylltiadau lleol. Gofynnwn i’r Comisiwn ail-ystyried hynny wrth barhau i ddatblygu ei gynigion.
Math o ymatebwr
Ar ran awdurdod lleol
Enw sefydliad
Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.