Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-8072

Annwyl Gadeirydd,

30 Medi 2024

A minnau’n Arweinydd Grŵp Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd, ysgrifennaf ar ran y Grŵp i gefnogi’r ymateb i’r ymgynghoriad a gyflwynwyd gan Blaid Geidwadol Cymru ynglŷn â’r cynigion cychwynnol ar gyfer parau etholaethau’r Senedd.

Yng nghyflwyniad y Blaid, rydym yn cefnogi deuddeg o’r parau arfaethedig sy’n synhwyrol ac yn ystyried cysylltiadau lleol, cysylltiadau diwylliannol a sut mae cymunedau’n rhyngweithio.

Rwyf wedi bod yn Aelod o Senedd Cymru dros Ganol De Cymru am y ddwy flynedd ar bymtheg diwethaf. Wrth edrych ar y dewis amgen arfaethedig fel y’i hawgrymwyd gan Blaid Geidwadol Cymru, credaf y byddai parau wedi’u haddasu yn gweddu’n well i gymunedau lleol, yn ogystal â hwyluso cydweithio i ddatrys materion lleol.

Yn hollbwysig, a minnau’n gyn gynghorydd Cyngor Bro Morgannwg, cydnabyddaf ei bod yn hanfodol bod ardal Cyngor Bro Morgannwg yn cael ei chadw gyda’i gilydd mewn etholaeth Senedd newydd. Dyna’n union y mae cynnig Ceidwadwyr Cymru yn ei wneud.

Er mwyn cyflawnder, rwyf wedi cynnwys y cynnig amgen isod.

Byddai parau etholaethau amgen Plaid Geidwadol Cymru yn effeithio ar y seddau canlynol:

• Aberafan, Maesteg, Rhondda ac Ogwr
• Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr
• Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth
• Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd.

A byddai’n creu’r parau newydd canlynol:

• Aberafan, Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr
• Bro Morgannwg, De Caerdydd a Phenarth
• Pontypridd a Gorllewin Caerdydd
• Merthyr Tudful, Aberdâr, Rhondda ac Ogwr
Yr achos o blaid Aberafan, Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr:
• Mae cysylltiadau trafnidiaeth pwysig, fel yr M4 a phrif linell Great Western, yn mynd o’r dwyrain i’r gorllewin, nid o’r gogledd i’r de. Mae llinellau trenau lleol yn rhedeg o fewn y ddwy etholaeth San Steffan hefyd gan uno cymunedau – er enghraifft, mae llinell yn rhedeg o Bencoed trwy Ben-y-bont ar Ogwr i Faesteg. Nid yw trenau’n rhedeg o Aberafan/Maesteg i’r Rhondda yn yr un ffordd.


• Mae’r pâr newydd yn dilyn daearyddiaeth arfordir Cymru.
• Mae ffiniau San Steffan yn rhannu Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn dair etholaeth wahanol. Byddai’r pâr newydd yn uno dwy o’r tair etholaeth hynny.
• Yn gymdeithasol ac yn economaidd, mae gan y pâr fwy yn gyffredin o ran diwydiant hanesyddol, pryderon o ran dyfodol diwydiannau lleol tebyg, a hynny’n fwy na’r parau eraill.
Yr achos o blaid Bro Morgannwg, De Caerdydd a Phenarth:
• Mae ardaloedd cyngor Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr yn ffurfio ffin wleidyddol rhwng etholaethau newydd y Senedd, gyda phoblogaeth sylweddol o fewn ardal cyngor y Fro yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth.
• Yn hanesyddol, bu gan y Fro gysylltiadau gwleidyddol â Chaerdydd. Byddai’r pâr hwn yn cadw ardal Cyngor Bro Morgannwg o fewn un etholaeth yn lle dwy, hefyd.
• Mae llawer o’r trefi a’r pentrefi ar ochr ddwyreiniol y Fro wedi’u cydblethu â’i gilydd a Chaerdydd. Mae pobl yn y Barri, Dinas Powys, Penarth a Llandochau yn symud rhwng y cymunedau hyn ar gyfer gwaith, cymdeithasu, ac addysg ac mae’r trefi a’r pentrefi amgylchynol yn ardal gymudo ar gyfer Caerdydd.
• Mae Maes Awyr Caerdydd wedi’i leoli ym Mro Morgannwg ac mae llawer o gysylltiadau trafnidiaeth rhwng Caerdydd a’r Barri.
• Fodd bynnag, cydnabyddwn fod y Fro orllewinol yn edrych tuag at Ben-y-bont ar Ogwr am ei gwasanaethau.
Yr achos o blaid Pontypridd a Gorllewin Caerdydd:
• Mae cymunedau deheuol yn etholaeth Pontypridd yn edrych tuag at Gaerdydd ar gyfer gwaith, addysg a chymdeithasu.
• Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn gryfach o Bontypridd i lawr i Gaerdydd. Mae llawer o gymudwyr yn gyrru i orsafoedd trenau o fewn Gorllewin Caerdydd neu Ogledd Caerdydd i deithio i mewn i Gaerdydd ar y trên.
• Mae mwy o gymunedau wedi’u cydgysylltu rhwng Pontypridd a Gorllewin Caerdydd, fel Glan-bad a Rhydyfelin.
• Roedd wardiau yng Ngorllewin Caerdydd yn etholaeth Pontypridd yn hanesyddol.
• Mae tref Pont-y-clun yn cael ei rhannu rhwng dwy etholaeth Senedd newydd – bydd rhoi Gorllewin Caerdydd a Phontypridd gyda’i gilydd yn atal y rhaniad hwnnw.
Yr achos o blaid Merthyr Tudful, Aberdâr, Rhondda ac Ogwr:
• Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwael rhwng Pen-y-bont ar Ogwr/Rhondda o gymharu â Rhondda a Merthyr Tudful/Aberdâr.
• Mae’r ardaloedd cymoedd hyn yn rhannu mwy o faterion tymor hir, fel tai, swyddi ac effaith ehangach mwyngloddio/ adfywio, o gymharu â Phen-y-bont ar Ogwr.
• Mae preswylwyr yn y Rhondda yn edrych yn fwy tuag at Ferthyr Tudful ar gyfer siopa na Phen-y-bont ar Ogwr.
• Rhoddwyd ystyriaeth ddifrifol i gynnwys Rhondda a Chwm Cynon yn yr un etholaeth San Steffan yn yr arolwg diwethaf o ffiniau.

Diolch am ystyried y diwygiadau hyn ac edrychaf ymlaen at weld ymateb y Comisiwn y flwyddyn nesaf.

Dymuniadau gorau,

Andrew RT Davies AS
Arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn Senedd Cym

Math o ymatebwr

Aelod o Senedd Cymru

Enw sefydliad

Welsh Conservative Group in the Senedd

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd