Sylw DBCC-8073
Annwyl Shereen
Atodir cyflwyniad Plaid Geidwadol Cymru ynglŷn â’r ymgynghoriad ar barau etholaethau cychwynnol y Senedd.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i mi neu [REDACTED]
[REDACTED]
Bev Smith
Cadeirydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
Llawr Gwaelod, Tŷ Hastings
Llys Fitzalan
Caerdydd
CF24 0BL
30 Medi 2024
Annwyl Gadeirydd
Ar ran Plaid Geidwadol Cymru, ymatebaf i’r ymgynghoriad ar gynigion cychwynnol yr arolwg o ffiniau etholaethau’r Senedd.
At ei gilydd, rydym yn cefnogi deuddeg o’r parau arfaethedig, gan gydnabod y cysylltiadau diwylliannol a daearyddol cryf rhwng cymunedau. Yng Ngogledd Cymru yn arbennig, mae’n braf gweld Wrecsam a Sir y Fflint yn cael eu huno, ardaloedd Clwyd gyda’i gilydd a’r cysylltiadau amlwg rhwng Ynys Môn a Bangor.
Yn yr un modd, mae’n dda gweld Canolbarth a De Sir Benfro yn cael eu huno â Cheredigion, sy’n rhannu ardaloedd cyngor, a dwy sedd Sir Gaerfyrddin yn cael eu cadw gyda’i gilydd. Rydym hefyd yn croesawu’r parau yn Ne-ddwyrain Cymru, sy’n sicrhau bod Casnewydd yn un sedd a bod etholaethau Sir Fynwy a Thorfaen yn cael eu huno’n naturiol.
Fodd bynnag, hoffem awgrymu pedwar pâr amgen ar gyfer seddau sy’n rhychwantu Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Rhondda, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg. Credwn y byddai’r newid bach hwn yn helpu i warchod cysylltiadau lleol – y mae llawer ohonynt yn hanesyddol – yn ogystal mynd i’r afael â materion cyffredin sy’n effeithio ar y cymunedau hyn.
Byddai ein cynnig amgen yn effeithio ar y parau arfaethedig canlynol:
• Aberafan, Maesteg, Rhondda ac Ogwr
• Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr
• Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth
• Merthyr Tudful, Aberdâr a Phontypridd. A byddai’n creu’r parau newydd canlynol:
• Aberafan, Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr
• Bro Morgannwg, De Caerdydd a Phenarth
• Pontypridd a Gorllewin Caerdydd
• Merthyr Tudful, Aberdâr, Rhondda ac Ogwr
Yr achos o blaid Aberafan, Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr:
• Mae cysylltiadau trafnidiaeth pwysig, fel yr M4 a phrif linell Great Western, yn mynd o’r dwyrain i’r gorllewin, nid o’r gogledd i’r de. Mae llinellau trenau lleol yn rhedeg o fewn y ddwy etholaeth San Steffan hefyd gan uno cymunedau – er enghraifft, mae llinell yn rhedeg o Bencoed trwy Ben-y-bont ar Ogwr i Faesteg. Nid yw trenau’n rhedeg o Aberafan/Maesteg i’r Rhondda yn yr un ffordd.
• Mae’r pâr newydd yn dilyn daearyddiaeth arfordir Cymru.
• Mae ffiniau San Steffan yn rhannu Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn dair etholaeth wahanol. Byddai’r pâr newydd yn uno dwy o’r tair etholaeth hynny.
• Yn gymdeithasol ac yn economaidd, mae gan y pâr fwy yn gyffredin o ran diwydiant hanesyddol, pryderon o ran dyfodol diwydiannau lleol tebyg, a hynny’n fwy na’r parau eraill.
Yr achos o blaid Bro Morgannwg, De Caerdydd a Phenarth:
• Mae ardaloedd cyngor Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr yn ffurfio ffin wleidyddol rhwng etholaethau newydd y Senedd, gyda phoblogaeth sylweddol o fewn ardal cyngor y Fro yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth.
• Yn hanesyddol, bu gan y Fro gysylltiadau gwleidyddol â Chaerdydd. Byddai’r pâr hwn yn cadw ardal Cyngor Bro Morgannwg o fewn un etholaeth yn lle dwy, hefyd.
• Mae llawer o’r trefi a’r pentrefi ar ochr ddwyreiniol y Fro wedi’u cydblethu â’i gilydd a Chaerdydd. Mae pobl yn y Barri, Dinas Powys, Penarth a Llandochau yn symud rhwng y cymunedau hyn ar gyfer gwaith, cymdeithasu, ac addysg ac mae’r trefi a’r pentrefi amgylchynol yn ardal gymudo ar gyfer Caerdydd.
• Mae Maes Awyr Caerdydd wedi’i leoli ym Mro Morgannwg ac mae llawer o gysylltiadau trafnidiaeth rhwng Caerdydd a’r Barri.
• Fodd bynnag, cydnabyddwn fod y Fro orllewinol yn edrych tuag at Ben-y-bont ar Ogwr am ei gwasanaethau.
Yr achos o blaid Pontypridd a Gorllewin Caerdydd:
• Mae cymunedau deheuol yn etholaeth Pontypridd yn edrych tuag at Gaerdydd ar gyfer gwaith, addysg a chymdeithasu.
• Mae cysylltiadau trafnidiaeth yn gryfach o Bontypridd i lawr i Gaerdydd. Mae llawer o gymudwyr yn gyrru i orsafoedd trenau o fewn Gorllewin Caerdydd neu Ogledd Caerdydd i deithio i mewn i Gaerdydd ar y trên.
• Mae mwy o gymunedau wedi’u cydgysylltu rhwng Pontypridd a Gorllewin Caerdydd, fel Glan-bad a Rhydyfelin.
• Roedd wardiau yng Ngorllewin Caerdydd yn etholaeth Pontypridd yn hanesyddol.
• Mae tref Pont-y-clun yn cael ei rhannu rhwng dwy etholaeth Senedd newydd – bydd rhoi Gorllewin Caerdydd a Phontypridd gyda’i gilydd yn atal y rhaniad hwnnw.
Yr achos o blaid Merthyr Tudful, Aberdâr, Rhondda ac Ogwr:
• Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwael rhwng Pen-y-bont ar Ogwr/Rhondda o gymharu â Rhondda a Merthyr Tudful/Aberdâr.
• Mae’r ardaloedd cymoedd hyn yn rhannu mwy o faterion tymor hir, fel tai, swyddi ac effaith ehangach mwyngloddio/ adfywio, o gymharu â Phen-y-bont ar Ogwr.
• Mae preswylwyr yn y Rhondda yn edrych yn fwy tuag at Ferthyr Tudful ar gyfer siopa na Phen-y-bont ar Ogwr.
• Rhoddwyd ystyriaeth ddifrifol i gynnwys Rhondda a Chwm Cynon yn yr un etholaeth San Steffan yn yr arolwg diwethaf o ffiniau.
Credwn y bydd y mân addasiadau hyn i’r parau arfaethedig yn gwella’r berthynas rhwng Aelodau’r Senedd a’r cymunedau maen nhw’n eu cynrychioli, ar yr un pryd â galluogi mwy o gydweithio i ddatrys materion cyffredin sy’n wynebu’r cymunedau hyn.
Edrychaf ymlaen at ddarllen canfyddiadau’r Comisiwn.
Yn gywir,
Y Cynghorydd Tomos Dafydd Davies
Cadeirydd Plaid Geidwadol Cymru
Math o ymatebwr
Ar ran sefydliad (preifat neu gyhoeddus)
Enw sefydliad
Welsh Conservative Party
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.