Sylw DBCC-8074
Dyma ymateb Cyngor Gwynedd i’r ymgynghoriad ar y Cynigion Cychwynnol.
Mae Cyngor Gwynedd croesawu y cyfle i ymateb i’r cynigion drafft ar gyfer etholaethau Senedd Cymru . Rydym yn cydnabod hefyd fod cyfyngiadau yn y Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 sydd yn golygu fod y dewisiadau yn gyfyngedig o ran creu yr etholaethau ar gyfer 2026. Rydym hefyd yn o ganlyniad yn cydnabod y bydd adolygiad cyflawn ar gyfer yr etholiadau canlynol yn 2030. Oherwydd hynny ac er fod gennym amheuon ynglŷn a ffurf yr etholaethau arfaethedig nid ydym yn rhoi safbwynt ymlaen ar eu priodoldeb.
Gan edrych ymlaen at yr adolygiad canlynol mae gennym bryderon o ran meini prawf ac egwyddorion yr adolygiad o safbwynt ffurf y ddarpar etholaethau. Mae hyn yn benodol o amgylch y ffactorau a gafodd flaenoriaeth wrth benderfynu cyplysu De Gwynedd gyda Gogledd Powys a Glyndwr ar yr un llaw a pheidio a chyplysu Gwynedd a Môn. Mae Gwynedd a Môn yn rhan o ranbarth cydnabyddedig y Gogledd gyda chysylltiadau llywodraeth leol , diwylliannol a chymdeithasol agos. Yn ddaearyddol gwahanir Môn a Gwynedd gan y Fenai ond mae hyn yn ffactor gyffredin ar hyd y rhan yma o’r arfordir. Rhoddwyd pwyslais sylweddol yn eich dadansoddiad ar leoliad Pontydd Britannia a Menai fel cysylltiadau ffyrdd allweddol i gyfiawnhau gwahanu Gwynedd yn ddwy ran. Nid oes ystyriaeth amlwg o gyd destun ehangach Gwynedd a Mon fel rhan o ranbarth y Gogledd. Ymddengys fod y pwyslais ar y pontydd â’r A55 yn gorbwyso fel ystyriaeth o safbwynt cynrychiolaeth wleidyddol. Yn yr un modd rhoddir pwyslais yn achos Dwyfor Meirionnydd Maldwyn a Glyndwr ar gysylltiadau ffyrdd heb roi sylw i’r cyd destun llywodraeth leol na rhanbarthol.
Rydym yn derbyn mae mater ar gyfer yr adolygiad canlynol yw hyn bellach. Fodd bynnag rydym yn awyddus fod y Comisiwn wrth gynnal yr adolygiad llawn ar gyfer 2030 yn sicrhau fod y broses yn rhoi sylw dyledus a phriodol i’r cyfan o’r meini prawf . Bydd y broses yma yn rhoi cyfle i greu etholaethau y Senedd o’r newydd ar gyfer y dyfodol. Mae’n hanfodol fod y broses yma yn achub ar y cyfle i greu ffurf o etholaethau sydd yn amlwg yn seiliedig ar yr ystod o ffactorau a thystiolaeth sydd yn bodoli.
Diolch
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Ar ran awdurdod lleol
Enw sefydliad
Cyngor Gwynedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.