Sylw DBCC-8075
Rwyf yn cyflwyno’r gynrychiolaeth hon i chi fel Cynghorydd ar ran ward Pentyrch a Sain Ffagan ar Gyngor Caerdydd.
Mae fy ward yn ardal ddaearyddol gymharol fawr wedi’i ffurfio’n bennaf o bentrefi i’r gogledd-orllewin o Gaerdydd ac mae o fewn etholaeth Gorllewin Caerdydd.
Hoffwn bwysleisio’r buddiannau cyffredin a phwysigrwydd cysylltiadau lleol sydd gennym i’r gorllewin o afon Taf ac i fyny tuag at Bontypridd.
Cefnogaf gynnig y Comisiwn i beidio â pharu Gorllewin Caerdydd â Gogledd Caerdydd, gan fod afon Taf yn rhwystr sylweddol rhyngddynt. Yr unig bont ffordd rhwng yr M4 a’r A48, sy’n cynnig cyffyrdd/cysylltedd cyfyngedig, yw’r Bridge Road gul ger Llandaf, lle’r wyf yn aml yn aros mewn rhes hir yn ceisio ymuno â Llantrisant Road wrth gylchfan fach.
I’r gwrthwyneb, mae’r Cyngor wedi penderfynu defnyddio Llantrisant Road / yr A4119 i gefnogi datblygiad sylweddol i’r gogledd-orllewin o Gaerdydd, gan gynnwys yn fy ward i. Wrth iddynt ddatblygu, bydd y cymunedau hyn yn cysylltu Gorllewin Caerdydd yn agosach ag etholaeth Pontypridd. Mae hefyd yn bosibl y gallem ailagor rheilffordd segur sy’n cysylltu’r rhain, os gellir sicrhau buddsoddiad ar gyfer hynny.
Mae’r ward yr wyf yn ei chynrychioli yn un wledig, yn bennaf. Mae gan bentrefi Pentyrch a Chreigiau, sef ei chanolfannau poblogaeth mwyaf, fwy yn gyffredin ac maen nhw’n mwynhau cysylltiadau lleol agosach â phentrefi yn etholaeth Pontypridd, e.e. Groes-faen, Pont-y-clun, Llanilltud Faerdref a Phentre’r Eglwys, na Phenarth.
Mae preswylwyr yn fy ward hefyd yn defnyddio’r parc manwerthu yn Nhonysguboriau a’r cyfleusterau hamdden o amgylch Meisgyn. O ganlyniad, gofynnaf i’r Comisiwn ystyried paru etholaeth Gorllewin Caerdydd ag etholaeth Pontypridd.
Y Cynghorydd Catriona Brown-Reckless
Math o ymatebwr
Cynghorydd lleol neu swyddog etholedig arall
Enw sefydliad
Cardiff Council
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.