Sylw DBCC-8076
Annwyl Ysgrifennydd y Comisiwn,
Atodir ein harsylwadau ar ddogfen ymgynghori’r Comisiwn ar ffurf cyflwyniad. Byddem yn croesawu cydnabyddiaeth.
Cofion cynnes
[REDACTED]
CYFLWYNIAD I GOMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU
Cefndir:
1. Trwy Adran 17 Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (Deddf 2024), mae Atodlen 2 ynddi yn darparu ar gyfer swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y Comisiwn) wrth benderfynu pa etholaethau sydd i’w paru ar gyfer etholiad cyffredinol yng Nghymru a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i reoliadau o dan adran 49J Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc 2013 ddod i rym.
2. Rydym wedi byw yn Nhongwynlais yn etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig Gogledd Caerdydd ers dros 40 mlynedd. Mae gennym y sylwadau canlynol i’w gwneud wrth ymateb i ddogfen ymgynghori’r Comisiwn ar etholaethau newydd y Senedd.
3. Mae paragraff 1 Atodlen 2 Deddf 2024 yn darparu bod rhaid i bob etholaeth newydd y Senedd gynnwys ardaloedd cyfunol dwy etholaeth seneddol gyffiniol y Deyrnas Unedig yng Nghymru.
4. Mae paragraff 4 Atodlen 2 Deddf 2024 yn darparu:
Wrth ystyried cyfuniadau posibl etholaethau seneddol y Deyrnas Unedig yng Nghymru, caiff y Comisiwn ystyried—
(a) ffiniau llywodraeth leol sy’n bodoli ar ddyddiad yr arolwg;
(b) ystyriaethau daearyddol arbennig gan gynnwys, yn enwedig, maint, siâp a hygyrchedd etholaeth Senedd arfaethedig;
(c) unrhyw gysylltiadau lleol (gan gynnwys cysylltiadau lleol sy’n ymwneud â defnyddio’r Gymraeg) a fyddai’n cael eu torri gan y parau arfaethedig.
5. Edrychwn ar y ffactorau hyn isod, ond, cyn gwneud hynny, mae’n werth ystyried goblygiad paragraff 1 Atodlen 2: bod y Comisiwn yn adeiladu ar waith a phenderfyniadau’r Comisiwn Ffiniau i Gymru, sydd hefyd yn cyfyngu ar gwmpas ei allu i bennu ffiniau.
6. O ran Gogledd Caerdydd, yr etholaethau cyffiniol sy’n bodloni’r gofyniad ym mharagraff 1 Atodlen 2 uchod yw Caerffili, Dwyrain Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, Gorllewin Casnewydd ac Islwyn a Phontypridd.
Ffiniau awdurdodau lleol sy’n bodoli ar ddyddiad yr arolwg
7. Pan fydd etholaethau’r Senedd yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, mae’n anochel y bydd rhaid i Aelodau’r Senedd ddatblygu arbenigedd ar drefniadau gweinyddol a pholisïau mwy nag un awdurdod lleol, sy’n golygu mwy o waith a mwy o alw ar amser Aelodau’r Senedd.
8. Ar y sail hon yn unig, felly, mae’n ddymunol iawn bod croesi ffiniau’n cael ei leihau gymaint â phosibl a byddem yn diystyru paru â Chaerffili, Gorllewin Casnewydd ac Islwyn. Derbyniwn mai’r canlyniad gorau i Ogledd Caerdydd yw paru ag etholaeth arall ym mwrdeistref Caerdydd.
9. Ond, fel y nodwyd yn flaenorol uchod, oherwydd bod rhaid i’r Comisiwn dderbyn ffiniau Seneddol y Deyrnas Unedig fel y maent, ni ellir diystyru croesi ffiniau’n gyfan gwbl gan fod etholaethau bwrdeistref Caerdydd a bennwyd gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru eisoes yn gwneud hynny.
10. O ran De Caerdydd a Phenarth, sydd ar bob ochr i’r ffin rhwng Dinas a Sir Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, mae’r pâr hwn yn un hirsefydlog. Byddai paru Gogledd Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth yn golygu y byddai’n rhaid i Aelodau’r Senedd ymaflyd â pholisïau tri awdurdod lleol, sef Dinas a Sir Caerdydd, Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf . Honnwn fod hyn yn dra annymunol ac yn rheswm dros ddiystyru pâr o’r fath.
11. Yn fwy diweddar, oherwydd diwygiad diweddar i Ddeddf Etholaethau Seneddol 1986, a gyflwynodd Gwota Etholiadol y Deyrnas Unedig a’r rheol gwyriad 5%, mae etholaethau bwrdeistrefol Senedd y Deyrnas Unedig Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd yn croesi’r ffin rhwng Dinas a Sir Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
12. Croesir y ffin yng Ngogledd Caerdydd lle mae ward yr Eglwys Newydd a Thongwynlais yn Ninas a Sir Caerdydd a ward Ffynnon Taf ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cyfarfod, ac yng Ngorllewin Caerdydd lle mae ward Creigiau/Sain Ffagan yn Ninas a Sir Caerdydd a ward Pont-y-clun ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cyfarfod.
13. Felly, bydd trefniadau gweinyddol a pholisïau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn effeithio ar Ogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd ac, fel yr esboniwyd ym mharagraff rhif 7 uchod, bydd hynny’n gofyn am arbenigedd ehangach gan Aelod o’r Senedd ac yn golygu mwy o waith iddo. Honnwn mai’r ffordd fwyaf effeithlon o gyflawni hyn yw trwy dîm o Aelodau’r Senedd o un etholaeth Senedd. Y goblygiad naturiol, felly, yw y dylid paru Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd. Pe byddai Gorllewin Caerdydd yn cael ei pharu â De Caerdydd a Phenarth, byddai’n wynebu’r un broblem ag y byddai Gogledd Caerdydd mewn pâr o’r fath, sef ymaflyd â pholisïau tri (3) awdurdod lleol. Mae hyn yn ffordd aneffeithlon iawn o symud ymlaen ac yn sicr o greu dryswch.
Ystyriaethau daearyddol arbennig gan gynnwys, yn enwedig, maint, siâp a hygyrchedd etholaeth Senedd arfaethedig:
14. I’r gogledd, mae Caerdydd wedi’i ffinio’n ddaearyddol â’r gadwyn o fryniau sy’n ymestyn ar draws Gogledd Caerdydd – Craig Llys-faen, y Wenallt a Chraig yr Allt yn Nantgarw – i Orllewin Caerdydd – y Garth a Soar – gan felly uno Gorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd. I’r de, mae’r ffin a ffurfir gan yr arfordir yn uno De Caerdydd a Phenarth a Dwyrain Caerdydd. Honnir bod hyn yn ystyriaeth ddaearyddol arbennig sy’n cefnogi paru Gogledd Caerdydd â Gorllewin Caerdydd, a Dwyrain Caerdydd â De Caerdydd a Phenarth.
1Gweler paragraff rhif 11
2A ddiffinnir ym mharagraff 2 Atodlen 2 Deddf Etholaethau Seneddol 1986, fel y’i diwygiwyd.
15. Mae Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn cynnwys ardal a warchodir o’r enw Lletem Las. Mae’r ardal yn cael ei gwarchod er mwyn atal blerdwf trefol a chynnal y gwahaniad rhwng Caerdydd a chymunedau amgylchynol. Mae wedi’i lleoli’n bennaf i’r gogledd o Gaerdydd gan ymestyn o Greigiau yng Ngorllewin Caerdydd i Bentref Llaneirwg yng Ngogledd Caerdydd. Mae’r nodwedd gyffredin hon rhwng y ddwy etholaeth fwrdeistrefol Seneddol yn ystyriaeth ddaearyddol arbennig arall sy’n cefnogi paru Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd.
16. Er y nodwn fod Afon Taf yn nodwedd naturiol sy’n gwahanu Gogledd Caerdydd oddi wrth Orllewin Caerdydd at ddibenion pennu ffin etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig, wrth asesu’r darlun mwy sy’n ofynnol gan baru statudol, honnwn fod yr ymdeimlad cyffredin o berthyn ymhlith y cymunedau ar hyd dyffryn yr afon o Ffynnon Taf, Tongwynlais, yr Eglwys Newydd, Gogledd Llandaf a Gabalfa yng Ngogledd Caerdydd, a Llandaf a Radur yng Ngorllewin Caerdydd, yn dod yn hollbwysig. Mae’r ddwy etholaeth wedi’u cysylltu gan bont ffordd yn wardiau Llandaf/Gogledd Llandaf a ffordd Pont yr Ynys sy’n cysylltu cymunedau Tongwynlais/Ffynnon Taf/Pentyrch, y mae’r olaf yn cynnwys Gwaelod-y-garth. Rhwng y ddwy bont ffordd, ceir hefyd groesfannau cerddwyr/beicwyr oddi ar Lwybr Taf wrth y Bont Haearn, Tongwynlais (sy’n arwain at Fferm Gelynis a Threforgan), a’r Bont Las yn Radur (sy’n rhoi mynediad i orsaf drenau Radur). Mae llwybr maes glas cyfan yr afon o fewn Caerdydd wedi’i gynnwys yn y ddwy etholaeth hyn, ac mae materion cynaliadwyedd, ecoleg, amddiffyn rhag llifogydd, llygredd ac ansawdd dŵr, a defnyddio’r ddyfrffordd yn creu buddiant cyffredin ar draws y ddwy etholaeth ac yn ystyriaeth arbennig bwysig iawn yn ddaearyddol ac o ran hygyrchedd sy’n ffafrio’r gynrychiolaeth a roddir gan etholaeth unigol.
17. Mae’r gwasanaeth Stagecoach 136 o Greigiau yng Ngorllewin Caerdydd i Ganol Dinas Caerdydd yn mynd trwy Bentyrch (Gorllewin Caerdydd) a’r Eglwys Newydd a Gabalfa (Gogledd Caerdydd). Mae hwn yn gysylltiad trafnidiaeth gyhoeddus pwysig ac yn ystyriaeth hygyrchedd sy’n cefnogi paru Gorllewin Caerdydd â Gogledd Caerdydd o ran darparu’r gynrychiolaeth orau gan Aelodau’r Senedd.
18. Er bod Gogledd Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth yn cyffwrdd wrth ran fach o’r ffin rhwng ward Cathays yn Ne Caerdydd a Phenarth a wardiau Gabalfa a’r Mynydd Bychan yng Ngogledd Caerdydd, honnwn fod y maint a’r siâp hir tebyg i eicon amserydd beri ŵy sy’n deillio o hynny yn rhywbeth i’w osgoi ac yn rheswm arall i ddiystyru paru’r ddwy etholaeth Seneddol y Deyrnas Unedig hyn.
19. Er mwyn cyflawnder, dylem hefyd ddweud bod siapiau a meintiau canlyniadol hir ac anhylaw yn rheswm arall dros ddiystyru paru Gogledd Caerdydd â Chaerffili, Gorllewin Casnewydd ac Islwyn neu Bontypridd.
20. Ochr yn ochr ag Afon Taf, mae hygyrchedd i Ogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd, oddi wrthynt ac ynddynt, yn cael ei wella’n sylweddol yn sgil datblygiad parhaus Metro De Cymru, gan gynnwys trydaneiddio llinellau’r Cymoedd. Mae gorsaf Metro newydd yn cael ei chynnig yn yr Hen Iard Lo ym Mynachdy (Ward Gabalfa yng Ngogledd Caerdydd). Mae’r llinell reilffordd yn cysylltu dwy ochr yr afon yn Llandaf a Ffynnon Taf (Gogledd Caerdydd) a Radur (Gorllewin Caerdydd). Bydd depo newydd Trafnidiaeth Cymru yn Ffynnon Taf (Gogledd Caerdydd) yn dod yn “guriad calon” y Metro. Mae’r datblygiad yn canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng Gogledd Caerdydd/Gorllewin Caerdydd wrth Afon Taf. Unwaith eto, mae gan etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd fuddiant cyffredin cryf. Mae hyn yn ystyriaeth bwysig iawn arall o ran hygyrchedd sy’n ffafrio paru Gogledd Caerdydd â Gorllewin Caerdydd.
3 Mae Pont yr Ynys yn cynnwys dwy bont ffordd mewn gwirionedd, y mae un ohonynt yn adeilad rhestredig gradd II sydd yng ngofal CADW.
21. O ran cysylltiadau ffyrdd, y prif hybiau traffig sy’n rhoi mynediad i Gaerdydd yw Cyffyrdd 30 (Porth Caerdydd) a 32 (Coryton) yr M4 - sydd ill dwy yng Ngogledd Caerdydd - Cyffordd 33 yr M4 (Capel Llanilltern) - yng Ngorllewin Caerdydd - sydd wedi’i chysylltu â Chroes Cwrlwys gan yr A4232(Gogledd) - yng Ngorllewin Caerdydd - sy’n croestorri â’r A48 sy’n mynd trwy Gaerdydd.
22. Yn ogystal, trwy ffordd gangen yr A48M oddi ar yr M4 sy’n dod yn Rhodfa’r Dwyrain (A48), mae cyfnewidfa/trosffordd Gabalfa yng Ngogledd Caerdydd yn rhoi mynediad i Ganol Dinas Caerdydd; Gogledd Caerdydd trwy Rodfa’r Gogledd/yr A470 sy’n arwain at gyfnewidfa Coryton a’r Cymoedd; a Gorllewin Caerdydd trwy Rodfa’r Gorllewin (A48) sy’n arwain at Bont Trelái ac yna Croes Cwrlwys.
23. Mae cymudwyr sy’n teithio i mewn ac allan o’r Ddinas bob dydd ar gyfer gwaith yn symud o’r gogledd i’r de yn fras ac yn cydgyfeirio i’r hybiau hyn, gan achosi tagfeydd (gan gynnwys cymudwyr o’r Cymoedd ac yn y gogledd-orllewin o amgylch ward Pont-y-clun o Rondda Cynon Taf a gysylltwyd yn ddiweddar). Mae coridor yr M4 i’r gogledd, a’r A48 i’r de, gyda’r A4232(Gogledd) a’r A470 yn cysylltu’r ddau, yn ffurfio’r fframwaith traffig sylfaenol ar gyfer symud ar draws lled etholaeth arfaethedig Gorllewin Caerdydd-Gogledd Caerdydd. Honnir fod gan y ddwy etholaeth, sef Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd, fuddiant cyffredin sylweddol yn ymwneud â rheoli a rheoleiddio’r hybiau a’r llwybrau hyn, a’r teithiau trwyddynt ac ar hyd-ddynt, a bod hyn yn rheswm hygyrchedd arall dros baru’r ddwy etholaeth.
24. Mae Llwybr Taf, sy’n dechrau ym Mae Caerdydd, yn mynd trwy Orllewin Caerdydd yng Ngerddi Sophia, Meysydd Pontcanna, a thrwy Ogledd Caerdydd ym Mharc Hailey, Fferm Fforest, yr Eglwys Newydd a Thongwynlais, cyn parhau tua’r gogledd i Aberhonddu. Mae hwn yn llwybr Teithio Llesol pwysig i’r gwaith ac ar gyfer byw’n iach a hamdden sy’n cysylltu Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd. Unwaith eto, byddai anghenion y rhan hon o goridor teithio pwysig ar gyfer beicio/cerdded a’i ddefnyddwyr yng nghyd-destun Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn cael eu cynrychioli orau gan dîm unigol o Aelodau’r Senedd o un etholaeth Senedd. Mae hyn yn ystyriaeth arall o ran hygyrchedd sy’n ffafrio paru Gogledd Caerdydd â Gorllewin Caerdydd.
Unrhyw gysylltiadau lleol (gan gynnwys cysylltiadau lleol yn ymwneud â defnyddio’r Gymraeg) a fyddai’n cael eu torri gan y parau arfaethedig.
25. Cysylltiadau yn ymwneud â’r Gymraeg: Caerdydd yw’r ardal fwyaf niferus ac sy’n tyfu gyflymaf o ran y Gymraeg yng Nghymru. Yn wir, mae’r duedd hon yn gryf iawn yng Ngorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd. Mae gan bedair ar ddeg (14) o wardiau yng Nghaerdydd fwy o siaradwyr Cymraeg na chyfartaledd Caerdydd, sef 10.1%; o’r rhain, mae un ar ddeg (11) yng Ngorllewin Caerdydd a Gogledd Caerdydd, gan gynnwys yr wyth ward â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg . Maen nhw’n ffurfio bloc cyffiniol sy’n ymestyn o’r gorllewin i’r dwyrain, o Greigiau a Phentyrch yn y gogledd-orllewin, i Lys-faen yn y dwyrain, gan gynnwys y ddwy ysgol uwchradd sydd wedi’u cysylltu’n hanesyddol yng Nglantaf a Phlasmawr. Honnir y bydd paru Gogledd Caerdydd a Gorllewin Caerdydd yn rhoi llais cryfach a mwy effeithiol yn y Senedd ac yn y genedl i darged y Senedd o gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Honnir ymhellach fod rhaid i “dorri cysylltiadau” yn y cyd-destun hwn hefyd olygu tanseilio a gweithredu mewn ffordd nad yw’n hyrwyddo polisi a dyheadau’r Senedd o ran y Gymraeg.
4 A ddiffinnir fel y rhai hynny sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg, yn ôl Cyfrifiad 2021.
26. Cysylltiadau eraill: Nodweddir yr un bloc cyffiniol hwn gan gymunedau mwy gwledig wedi’u seilio ar bentrefi, o’u cyferbynnu â natur fwy cynhenid drefol canol y ddinas a llawer o rannau dwyreiniol a deheuol o’r ddinas sy’n ymestyn i’r arfordir. Amlygir hyn gan y ffaith bod pob un o chwe Chyngor Cymuned Caerdydd o fewn Gogledd Caerdydd (Llys-faen; Pentref Llaneirwg; Tongwynlais) a Gorllewin Caerdydd (Radur a Threforgan, Pentyrch – sy’n rhychwantu Creigiau, Gwaelod-y-garth a Phentyrch – a Sain Ffagan). At hynny, yng Ngogledd Caerdydd, mae ward Ffynnon Taf o Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cynnwys pentref Nantgarw sy’n cydffinio â Chymuned Ffynnon Taf a Nantgarw y mae ganddi ei Chyngor Cymuned ei hun hefyd. Byddai uno’r cymunedau hyn o dan set gyffredin o gynrychiolwyr y Senedd yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd eu buddiannau a’u nodweddion cyffredin, gan gynnwys strwythurau llywodraethu, yn cael eu cynrychioli’n effeithiol. Mae llawer o’r buddiannau cyffredin hyn yn adlewyrchu natur dyffryn Afon Taf fel cyswllt trafnidiaeth allweddol ar gyfer y rhanbarth.
27. Yn ogystal, wrth fynd heibio, mae’n werth crybwyll y byddai lleoli ward Ffynnon Taf o Rondda Cynon Taf a ward Pentyrch o Ddinas a Sir Caerdydd (sy’n cynnwys Gwaelod-y-garth) yn yr un sedd yn y Senedd yn hyrwyddo cysylltiadau naturiol rhwng y ddwy gymuned fach hyn ac yn osgoi eu torri.
28. Yn olaf, mae Ysgol Gynradd Tongwynlais yng Ngogledd Caerdydd yn ysgol fwydo ar gyfer Ysgol Gyfun Radur yng Ngorllewin Caerdydd. Er mwyn i Aelod o’r Senedd ddarparu’r gynrychiolaeth orau, dylai’r ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd fod o fewn ei etholaeth.
Casgliadau
29. Mae’r Comisiwn wedi cynnig paru Gogledd Caerdydd â Dwyrain Caerdydd. Gan gymhwyso’r ystyriaethau a grybwyllwyd uchod a restrir ym mharagraff 4 Atodlen 2 a’n rhesymeg ein hunain, honnwn nad yw cynnig y Comisiwn yn adlewyrchu’r trefniadau gorau ar gyfer Gogledd Caerdydd na hyd yn oed etholaethau bwrdeistrefol eraill Caerdydd.
30. Yng ngoleuni’r ystyriaethau a’r rhesymau hyn, gofynnwn i Ogledd Caerdydd gael ei pharu â Gorllewin Caerdydd, ac nid â Dwyrain Caerdydd. Honnwn nad yw’r newid hwn yn arwain at unrhyw effaith gynyddol arall heblaw am baru De Caerdydd a Phenarth.
Rydym yn fodlon i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gysylltu â ni gyda diweddariadau e-bost ynglŷn â’r arolwg hwn o ffiniau etholiadol.
[REDACTED]
30 Medi 2024
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.