Sylw DBCC-8077
Annwyl gyfeillion
Dyma sylwadau fy ffrind [REDACTED]
SYLWADAU AR Y NEWIDIADAU ARFAETHEDIG
ETHOLAETHAU SENEDDOL CYMRU 2026
Ni ellir gwahanu’r systemau etholiadau sydd mewn grym/a ddylai fod mewn grym, gan fod cryn dipyn o ddeddfwriaeth Cymru yn parhau yn San Steffan.
AWGRYMIADAU GENNYF I
Newid etholaethau Cymru yn San Steffan i’r deugain o etholaethau a fodolai cyn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf eleni. Gwneud y deugain hyn yn sail i etholiad Senedd Cymru yn 2026. (Y ddwy senedd i ddewis systemau pleidleisio). Ac ethol dau aelod i Senedd Cymru yn etholaethau dywededig San Steffan.
Byddai hynny’n symleiddio pethau ac yn batrwm radicalaidd yn hytrach na’r un ceidwadol a gynigir ar hyn o bryd.
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.