Sylw DBCC-8089
Helo,
Hoffwn gofrestru fy ngwrthwynebiad i'r enw uniaith Gymraeg ar gyfer yr etholaeth newydd arfaethedig a fydd yn uno Sir Fynwy a Thorfaen. Nid yw'r mwyafrif helaeth o bobl yn Sir Fynwy yn siarad Cymraeg ac ni fyddent yn teimlo bod enw Cymraeg yn unig yn berthnasol iddyn nhw.
Mae'n debyg eich bod yn ymwybodol bod trefi yn Sir Fynwy fel Cas-gwent a Chil-y-coed wedi denu nifer fawr o bobl o ardal Bryste yn ystod y blynyddoedd diwethaf (oherwydd y prisiau tai mwy ffafriol) ac mae perygl i hyn eu dieithrio o'r prosesau democrataidd yn yr ardal maen nhw'n byw ynddi.
Cefais fy ngeni yng Nghymru ac rwyf wedi bod yma ar hyd fy oes. Ni allaf siarad Cymraeg a does gen i ddim bwriad dysgu - nid yw hyn yn lleihau fy malchder o fod yn Gymro a’r ffaith fy mod eisiau cymryd rhan lawn ym mhrosesau democrataidd fy ngwlad, ond mae cael enw ar gyfer yr etholaeth na allaf ei ddeall ac felly nad sy’n berthnasol i mi yn annemocrataidd.
Diolch
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.