Sylw DBCC-8091
Mae'n annerbyniol y dylai etholaeth arfaethedig Casnewydd ac Islwyn gael ei henwi'n Gymraeg yn unig. Dywed y Cynigion Diwygiedig, “Mae’r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enw’r Ddinas". Mae hynny’n anghywir. Yn yr iaith Saesneg, nid "Casnewydd" yw enw'r ddinas, ond "Newport". Mae hyn yn arbennig o od o ystyried bod enwau arfaethedig etholaethau cyfagos Dinas Caerdydd yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg a Saesneg. Nid oes rheswm derbyniol pam y dylid trin mwyafrif poblogaeth Casnewydd, nad ydynt yn siarad Cymraeg, fel dinasyddion eilradd pan nad yw poblogaeth gyfagos Caerdydd yn cael eu trin felly. Dylid darparu enw'r etholaeth hon yn y ddwy iaith, h.y. "Newport [and] Islwyn" yn Saesneg.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.