Sylw DBCC-8093
Annwyl Syr/Fadam
Mae'n dipyn o syndod i mi eich bod wedi dewis defnyddio enwau Cymraeg yn unig ar gyfer seddi newydd y Senedd. Mae'n ymddangos yn gwbl annheg i chi wneud hyn, pan mai dim ond 15% o boblogaeth Cymru sy'n siarad neu'n deall Cymraeg.
Drwy gymryd y safiad hwn, rydych yn wynebu'r risg y bydd llai o bobl nawr yn pleidleisio yn etholiadau'r Senedd 2026. Rwy'n deall yr enwau Cymraeg yn unig yn y Gogledd, ond yr hyn na allaf ddeall yw pam eich bod yn dewis gwneud hyn yn y De, lle mae'r mwyafrif helaeth yn defnyddio'r Saesneg fel eu dewis iaith gyntaf.
Rwy'n gwybod eich bod yn rhwym i'r Ddeddf Iaith Gymraeg, ond credaf y dylech edrych eto ar y seddi Cymraeg yn unig hyn, yn enwedig yn y De, a'u gwneud yn ddwyieithog
Yn gywir
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.