Sylw DBCC-8100
Fel cyn-breswylydd o Bontypridd gyda theulu yn dal yn y dref, hoffwn godi gwrthwynebiad i enw'r etholaeth arfaethedig 'Merthyr, Cynon, Taf. Mae'r enw hwn yn dileu tref Pontypridd sy'n annerbyniol, ond yn cadw cyfeiriad at Ferthyr Tudful. Mae'r enw hefyd mewn perygl o achosi dryswch gydag etholaethau San Steffan y mae'r etholaeth fwy hon yn seiliedig arnynt, sy'n defnyddio'r enwau lleoedd. Er bod yr enw'n defnyddio'r rhannau perthnasol o ardal cyngor Rhondda Cynon Taf, nid yw hynny'n adlewyrchu hunaniaeth pobl yr ardal. Byddwn yn cynnig bod yr enw'n dychwelyd i ryw amrywiad o Bontypridd, Merthyr, ac Aberdâr i adlewyrchu'r enwau lleoedd perthnasol.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.