Sylw DBCC-8103
Rwy'n berson sy’n falch o ddod o Gymru ond rwy'n teimlo fy mod i'n raddol gael fy ymyleiddio gydag enwau uniaith Gymraeg. Byddai'n well gen i allu parhau i gyfeirio at yr enw "The Vale of Glamorgan" gyda fy ffrindiau Rhyngwladol (gan gynnwys Saeson). Rwy'n cefnogi'r Gymraeg ond os awn ni'n rhy bell rydym mewn perygl o gael ein cyhuddo o fod yn ynysig. Ni fu erioed angen mwy am ryddfrydwyr ('r' fach) i ddangos ein galluogrwydd a'n hawydd rhyngwladol i gydweithio. Mae fy ffrindiau Ewropeaidd i gyd yn falch o'u gallu gyda'r Saesneg.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.