Sylw DBCC-8109
Mae paru seddi De Cymru yn seiliedig ar barau'r Gogledd yn chwerthinllyd; pe bai'n cael ei ystyried yn seiliedig ar ffiniau Cymru gyfan, iawn, ond a ddylai'r system eich gorfodi i gael gwared ar gymunedau yn y De, na.
Nid yw'n deg cael gwared ar gymunedau yn y De a’u gwahanu fel bod y Gogledd yn llai ar ei cholled. Bydd y Gogledd ar ei cholled ychydig beth bynnag oherwydd daearyddiaeth a dwysedd poblogaeth. Oni bai ein bod yn symud mynyddoedd neu'n gorfodi 500 mil o fabanod newydd yn y Gogledd, bydd bob amser yn anghymesur i'r De.
Yn naturiol mae gan y Gogledd lai o gysylltedd na'r De; mae'n fwy gwledig, mae yno lai o bobl, ac ni ddylai gymryd blaenoriaeth dros y De lle mae cysylltiad uniongyrchol a chymuned yn wahanol i'r Gogledd - neu lle mae cymunedau yn y Gogledd, byddant yn dal i aros gyda'i gilydd fel rhan o etholaeth fwy heb gael eu rhannu.
Mae'r cynigion presennol yn dinistrio cymunedau, yn drysu pobl leol a thra nad oes gan y Gogledd seddi perffaith o hyd, gallai fod gan y De seddi dilys yn agos at 100%. Yn lle hynny, rydych chi'n dewis seddi israddol i bawb.
Pam felly mae'n rhaid i bawb ddioddef pan fydd y seddi rydych chi'n ceisio eu hachub h.y. y Gogledd yn dioddef beth bynnag. Nid gwneud i bawb fod ar eu colled yw'r ffordd i ddatrys y ffaith bod rhai ar eu colled. Rhaid paru Aberafan Maesteg gyda Phen-y-bont ar Ogwr. Mae un ffordd i mewn a mas o Faesteg i Ben-y-bont ar Ogwr ac mae Aberafan trwy Bort Talbot yn mynd yn uniongyrchol i Fargam a Phorthcawl ar hyd yr M4. Bydd y cysylltiad lleol yma gyda chynrychiolwyr etholedig ac etholwyr wedi mynd oherwydd "mae'r bont yn Ynys Môn yn dweud na".
Mae Pen-y-bont ar Ogwr a'r Fro yn wahanol iawn o safbwynt economeg ac iechyd. Dyw pobl Pen-y-bont a phobl y Fro ddim yr un bobl. Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn cyd-fynd yn agosach ag Aberafan Maesteg lle mae pobl yn perthyn i'r un teuluoedd, criwiau o ffrindiau, ysgolion, cymunedau a'r bobl hynny o ddosbarth a meddylfryd tebyg. Dylid paru'r Fro gydag etholaeth yng Nghaerdydd sy'n adlewyrchu'n fwy cywir ddosbarth cymdeithasol yr ardal.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.