Sylw DBCC-8115
Yn gyffredinol, rwyf yn erbyn y newid i ffiniau Alun a Glannau Dyfrdwy gan eu bod i weld yn gwanhau lefel y gynrychiolaeth y bydd y cyhoedd yn ei derbyn ond rwy’n gwerthfawrogi bod hyn yn debygol o fynd yn ei flaen erbyn hyn.
Hoffwn gofrestru gwrthwynebiad cryf i enw "Fflint a Wrecsam" ar y sail 1. ei fod yn dileu cynrychiolaeth ar gyfer ardal Glannau Dyfrdwy, a 2. nad yw'n adlewyrchu confensiynau enwi lleol nac yn dangos parch tuag atynt.
1. Mae ardal Glannau Dyfrdwy yn glymdref gyda phoblogaeth o tua 55,000 o bobl, sy'n cyfateb yn fras i boblogaeth Wrecsam, a thua dwywaith poblogaeth y Fflint gan gynnwys pentrefi cyfagos. Byddai'n drueni mawr gweld dim cydnabyddiaeth nac adlewyrchiad o'r ardal yn nheitl yr etholaeth pan mae'r dewis o "Fflint" yn awgrymu tref y Fflint yn hytrach na Sir y Fflint (sydd fel arfer yn cael ei ddangos fel "Sir y Fflint") - mae'n teimlo bod yr etholaeth newydd yn cynrychioli tref y Fflint a dinas Wrecsam. Rwy'n credu bod angen naill ai i'r enw gynrychioli'r siroedd "Sir y Fflint a Wrecsam" NEU gyfeirio at drefi ond gan gynnwys Glannau Dyfrdwy "Fflint, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam".
2. Er fy mod i'n deall pam y defnyddiwyd yr enwau Cymraeg ac yn fwy cyffredinol yn cefnogi gwarchod y Gymraeg, nid yw hyn yn adlewyrchu anghenion y gymuned leol yn yr achos hwn. Sir ddi-Gymraeg yw Sir y Fflint i raddau helaeth (dim ond 11% sy'n siarad Cymraeg, ystadegyn sydd ynddo’i hun yn ymddangos yn oramcangyfrif yn seiliedig ar brofiad) yn wahanol i Wynedd er enghraifft (lle mae 76% yn siarad Cymraeg). Lle ceir enwau dwyieithog, yr enwau Saesneg sy'n cael eu defnyddio bron yn unfrydol gan drigolion lleol (e.e. Connah's Quay, a byth Cei Connah; Mold, byth yr Wyddgrug etc). O ystyried bod hyn yn fater o ddemocratiaeth a chynrychiolaeth ynghylch ffiniau etholiadol, mae'n ymddangos yn amharchus i anwybyddu/osgoi iaith frodorol trigolion lleol a defnyddio sillafu enwau trefi na fyddai trigolion yn eu defnyddio yn eu bywydau bob dydd. Hyd yn oed wrth edrych ar Gaerdydd sydd â chanran llawer uwch o boblogaeth sy'n siarad Cymraeg, ac y cyfeirir ati'n amlach o lawer gyda’r enw Cymraeg o ddydd i ddydd, mae’r etholaethau wedi'u Seisnigeiddio o hyd (e.e Cardiff East). Felly mae'n ymddangos bod yr enw "Fflint a Wrecsam" yn ddiangen ac yn adlewyrchu camddealltwriaeth gan y Comisiwn Ffiniau o angen lleol (mae'n teimlo fel penderfyniad allanol sy’n cael ei orfodi am resymau allanol i'r ardal). Unwaith eto, rwy'n siŵr bod hyn yn llawn bwriadau da, ond yn sicr dylid blaenoriaethu anghenion y cyhoedd yma.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.