Sylw DBCC-8125
Rwy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Torfaen yn sir hanesyddol Sir Fynwy. Mynychais ysgolion cyfrwng Cymraeg yng Nghwmbrân ac wedyn ym Mhont-y-pŵl. Anaml iawn rwyf wedi defnyddio'r iaith ers hynny, a phrin y gallaf ei siarad bellach, er fy mod i'n gallu ynganu Syr Fynwy, nid yw'r rhan fwyaf o bobl dwi'n eu hadnabod yn siarad Cymraeg a ddim yn gallu ynganu Mynwy/Sir Fynwy yn gywir fel y mae. Fydd pobl ddim yn dechrau siarad Cymraeg trwy ryw ryfedd wyrth oherwydd eich bod chi wedi ailenwi Sir Fynwy. O ran Torfaen, peidiwch â dechrau - ni chafodd Afon Llwyd ei galw'n Dorfaen erioed, defnyddiwyd yr enw yn yr 1980au, ychydig iawn o gofnodion o'r enw hwnnw sydd yn yr Archif Papurau Newydd Cymru y tu hwnt i gyfeiriadau prin at stryd a ddymchwelwyd ger yr afon ym Mhont-y-pŵl yn ystod oes Fictoria.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.