Sylw DBCC-8140
Bore da,
I gychwyn dwi o’r farn fod eich dwylo wedi clumu gan Lywodraeth Cymru gan fod rhaid cysylltu 2 x etholaeth y DU. Beth sydd gan etholaethau’r DU i wneud efo democratiaeth yng Nghymru? Ac wrth gwrs rhaid i’r 2 fod gyda ffin sydd yn cyffwrdd.
Yn yr ymgynghoriad diwethaf fe wnes i ddweud nad oeddwn yn cytuno gyda etholaethau mor fawr. Dwi’n meddwl fod hwn yn farn gan nifer o boblogaeth Cymru. Efallai’r mwyafrif. Ond mae’n ymddangos nad oes modd troi’r farn yng Nghaerdydd.
Dwi ddim yn gwrthwynebu mwy o Aelodau yn y Senedd ond dwi ddim o blaid y cynllun yma o gynyddu’r rhifau.
Gan eich bod yn gofyn am y ffordd rydych wedi efeillio’r etholaethau dwi ddim yn cytuno gyda Môn Bangor Aberconwy. Hoffwn weld Môn wedi efeillio gyda Dwyfor Meirionnydd. Buasai hyn yn gwneud llawer mwy o synwyr yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.