Sylw DBCC-8147
Ar gyfer ardaloedd lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siaradwyr Saesneg (ac y gellid dadlau y buont erioed ac y byddant am byth), dylai enwau’r etholaethau fod yn Saesneg.
Rwyf i wedi cael llond bol o wahaniaethu Cymraeg yn gyntaf a llywodraeth sy’n methu ym mhob maes sy’n bwysig, oherwydd eu hobsesiwn gydag iaith na ddylid ei gorfodi ar y rhai sydd eisiau dim i’w wneud â hi... os nad yw’n cael ei defnyddio’n eang y tu allan i ychydig o ardaloedd mwyaf, mae hynny am resymau da! Rwy’n dod o Gymru ac rwyf i wedi cael llond bol ar gael fy nhrin fel nad wyf i’n ddigon o Gymro/Cymraes am beidio â siarad Cymraeg. Nid fy iaith i yw hi, ac ni fydd hi fyth!
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.