Sylw DBCC-8148
Mae hon yn ardal lawer rhy fawr, ac yn rhy amrywiol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol, i gael ei chynrychioli’n briodol fel un uned. Mae hefyd yn gwbl amlwg yn anghywir peidio ag uno ardal Wrecsam fel un uned, ac mae presenoldeb cornel bennaf drefol o’r etholaeth yn debygol, yn fy marn i, o arwain at fethiant i ddeall neu gynrychioli anghenion yr ardaloedd gwledig llai poblog yn llawn fel y dylid ei wneud, gan y rhai a etholir i’r Senedd. Rwyf o’r farn bod hyn eisoes yn digwydd o ran ein cynrychiolaeth yn San Steffan, ac rwy’n gresynu’r newid ffiniau sydd wedi arwain at hyn. Yn fy marn i, mae buddiannau’r bobl yn cael eu bodloni yn fwy priodol gan y model blaenorol nag unrhyw beth a gynigir gan yr adolygiad hwn, ond os oes angen paru Sir Drefaldwyn ag ardal arall dylai fod i’r de, fel bod yr anghenion a’r materion gwahanol sy’n wynebu’r gororau gwledig yn cael eu cynrychioli’n briodol.
Math o ymatebwr
Cynghorydd lleol neu swyddog etholedig arall
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.