Sylw DBCC-8155
Annwyl Darllenydd,
Wnes i ddod o hyd i erthygl ar wefan Golwg yn sôn am etholaethau newydd ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2026. Sylwais bod yr enwau gwreiddiol o’r rhanbarthau/ siroedd y wlad yn cael eu dewis dros rhai English sy’n beth da iawn am y rheswm bod enwau Cymraeg yn aml yn cyfeirio at enw, hanes, tirwedd/ elfennau daearyddol, diwylliant, diwydiant, a.y.y.b sy’n holl bwysig.
Mae'r enw Sir Gâr (sy’n enw bŷr ar y gwreiddiol: Sir Gaerfyrddin) ddim yn cydfynd a phwpras defnyddio’r enwau gwreiddiol Cymraeg fel esbonwyd uchod. Rwy o’r farn bod byrhau enwau ardaloedd fel hyn yn mynd i niweidio’r ddadl o gael enwau Cymraeg yn unig gan nad ydi Sir Gâr yn golygu unrhywbeth fel yr enw English ar y sir: Carmarthenshire.
Gobeithio gewch chi fy neges ac fe fyddech yn ail-ystyried newid yr enw o Sir Gâr i Sir Gaerfyrddin.
Gwyliau Hapus
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.